Cyflwyno Shazia

by ProMo Cymru | 19th Ebr 2021

Mae ProMo-Cymru yn cefnogi datblygiad sgiliau pobl ifanc ac yn helpu i dyfu talent newydd. Dyma gyflwyno Shazia, sydd yn archwilio ei diddordebau mewn cyfryngau cymdeithasol ac yn ehangu ei set sgiliau wrth weithio ar liwt ei hun i’n tîm marchnata.

Mae’r cyfryngau wedi fy nenu erioed. Fel y mwyafrif o bobl, tyfais yn cael fy swyno gan ffilm a theledu, ac rwy’n parhau i wylio llawer gormod o Netflix, ond mae fy mherthynas cymhleth gyda’r newyddion wedi bod yn rhywbeth sydd yn fy niffinio ers hir iawn.

Wedi fy ngeni a’m magu yng Nghymru, gydag ethnigrwydd Bangladeshi a chefndir ffydd Islamaidd, yn llyncu cyfryngau sydd yn aml wedi cam-gynrychioli a gwyrgamu fy hunaniaeth i a chymunedau. Rwy’n berson sydd yn ymwybodol iawn o’r materion yn ymwneud â sylw cywir a chynrychiadol. Roedd hyn yn hwb i mi astudio Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd, ble roeddwn yn cysgodi mewn ystafelloedd newyddion a gorsafoedd radio prysur rhwng darlithoedd.

Yn dilyn graddio, gallais gychwyn yn syth mewn cyfathrebu creadigol fel cynorthwyydd cyfryngau i sefydliad rhyng-ffydd. Yma llwyddais drawsffurfio gofod academaidd, dwys iawn ar wybodaeth, yn amgylchedd cyfryngau cymdeithasol cyfeillgar bywiog. Mae fy nghariad tuag at gyfathrebu digidol wedi fy helpu i greu cynnwys ffres ac amserol sydd yn ffitio arddull cyfryngau cymdeithasol cyfoes, tra aros yn unigryw. Yna fe ddaeth swydd ymdrechgar iawn fel gohebydd i sianel newyddion lleol. Roeddwn yn darganfod straeon diddorol yn ddyddiol ac yn rheoli tîm bychan o newyddiadurwyr wrth i ni ymdrin yn uchelgeisiol â holl agweddau darllediad teledu. Dyma le cefais y cyfle i ymdrochi yng nghymunedau amrywiol fy nhref enedigol yn Abertawe ac ennill ffydd y bobl i ailadrodd eu straeon gyda dilysrwydd a chalon.

Yn bresennol rwy’n trosglwyddo ymgyrch ddigidol ‘Pleidlais 16’ unigryw sydd yn cael ei arwain gan gyfoedion, gyda’r bwriad o rymuso Pobl o Liw ifanc i bleidleisio yn etholiadau Cymru, yn ogystal â darganfod hanesion cyfraniad cymunedol pobl BAME Cymru yn ystod Covid, tra hefyd yn helpu tîm marchnata ProMo-Cymru.

I’r mwyafrif o bobl yn eu hugeiniau cynnar, mae’r farchnad swyddi yn un pryderus, ac nid yw’n addawol iawn i nifer ohonom, felly gall y syniad o gael i mewn i’r diwydiant cyfryngau deimlo’n amhosib. Ond mae cyfleoedd fel y rhai sydd gen i nawr, yn caniatáu i mi fagu a datblygu sgiliau, ac archwilio angerddau, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw i beth sydd i ddod.