Cyflwyno Carfan Ein Rhaglen Cynllunio Gwasanaethau Digidol

by Tania Russell-Owen | 8th Mai 2024

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6-mis newydd. Rydym wedi gwahodd sefydliadau trydydd sector Cymru i wneud cais. Dyma ddatgelu’r ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn defnyddio digidol i wella eu gwasanaeth i’w defnyddwyr.

Derbyniwyd sawl cais gwych, fel ei bod yn anodd dewis dim ond pump, felly penderfynwyd ymestyn y cynnig i chwe sefydliad. Mae’r sefydliadau yma eisoes wedi cyfarfod mewn gweminar gychwynnol, y cam cyntaf ar y daith newid digidol yma.

Dyma’r sefydliadau rydym yn gyffrous i gael gweithio â nhw:

Logo Cyswllt Conwy
Dau C  yng nghanol cylch lliwgar
Lliwiau coch, gwyrdd, pinc a melyn
Digidol

Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu

Mae Cyswllt Conwy yn elusen sy’n gweithio ar draws chwe sir Gogledd Cymru. Maent yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd. Maen nhw’n awyddus i’r elusen ddod yn fwy digidol er mwyn lleihau’r pwysau ar wasanaethau a chefnogi eu haelodau’n well gan ddefnyddio digidol.

“Rydym am fireinio ac optimeiddio ein prosesau wrth integreiddio datrysiadau digidol. Ein nod yw sefydlu system gadarn ar gyfer lledaenu gwybodaeth yn effeithlon, yn lleihau llwyth gwaith ychwanegol ar ein staff a sicrhau’r buddion gorau ar gyfer ein haelodau,” meddai Leanne Davies, Swyddog Cyfathrebu Cyswllt Conwy .

“Rydym yn awyddus i groesawu’r her a defnyddio’r arbenigedd a’r adnoddau sydd ar gael yn y cwrs hwn i adnabod a gweithredu datrysiadau digidol a fydd yn symud ein gwasanaethau i  uchafbwyntiau newydd.”

Logo Elit Supported Employment. Siapiau yn cyfleu ffigwr oedolyn a phlentyn mewn cylch gyda'u dwylo yn yr awyr. Lliwiau glas a gwyrdd
Digidol

Cyflogaeth â Chymorth ELITE

Mae Cyflogaeth â Chymorth ELITE yn elusen sy’n rhoi grym i bobl anabl neu’r rhai dan anfantais. Maent yn gweithio ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n cefnogi pobl gyda chyfleoedd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth hyd at annibyniaeth. Hoffai ELITE gynllunio porth cyflogadwyedd ar-lein pwrpasol a hygyrch lle gall cyfranogwyr gael mynediad diogel iddo.

“Byddai’r porth yma yn gam cyntaf tuag at bontio’r bwlch digidol ar gyfer rhai o’n cyfranogwyr ac yn fanc gwybodaeth ddibynadwy i eraill. Byddai’n ategu ein cymorth un-i-un ac yn cynnig cyngor ac arweiniad y tu allan i oriau,” meddai Erika James, Rheolwr Gweinyddiaeth Grŵp ELITE.

“Mae’r dirwedd ddigidol yn newid yn barhaus, ac mae mwy y gallem ni ei wneud i gyrraedd a grymuso ein cyfranogwyr. Bydd y rhaglen yma’n fan cychwyn ar gyfer gwasanaethau digidol newydd a allai arwain at raglen cymorth ddigidol.”

Logo Grŵp Cynefin gyda'r geiriau Mwy na thai
C gwyn mewn cylch glas 
Digidol

Grŵp Cynefin

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai elusennol sy’n gweithredu ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Powys, yn darparu gwasanaethau yn ymwneud â thai a’r gymuned. Maent yn cefnogi’r gymuned gyda chanolfannau cymunedol, prosiectau atal digartrefedd, a grantiau cymunedol. Mae Grŵp Cynefin am ddatblygu ei ap ApCynefin ymhellach er mwyn cyfathrebu’n fwy effeithiol gyda thenantiaid . Hoffant allu anfon hysbysiadau gwthio, talu rhent, mynediad i ddogfennau pwysig, trefnu apwyntiadau, a mwy.

“Rydym yn gobeithio y bydd ApCynefin yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n tenantiaid a’r ffordd maent yn rheoli eu tenantiaeth ac yn cael mynediad i’n gwasanaethau. Wrth gael mynediad i’r ap ar amser sy’n gyfleus iddynt, a pheidio gorfod dibynnu ar gysylltu yn ystod oriau swyddfa. Bydd hyn yn sicrhau ei fod yn fwy hygyrch i bawb,” meddai Hawys Roberts, Swyddog Marchnata Digidol a Chyfathrebu Grŵp Cynefin.

“Trawsnewid digidol yw un o’n prif flaenoriaethau fel sefydliad dros y blynyddoedd i ddod. Yr ap yw’r cam cyntaf yn y broses hon. Nid yn unig fydd y sgiliau, yr offer, a’r technegau a ddysgwn ar y cwrs o fudd i ni gyda’r prosiect hwn, ond bydd y sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn ein cefnogi ym mhrosiectau trawsnewid digidol y dyfodol.”

Logo Kidcape
K piws gyda siapiau lliwgar y tu ôl gyda'r geiriau Kidcape Help With Bullying
Digidol

Kidscape

Mae Kidscape yn elusen sy’n gweithio ledled Cymru i ddarparu cymorth ymarferol, hyfforddiant, a chyngor sy’n herio bwlio ac yn amddiffyn bywydau ifanc. Maent yn awyddus i archwilio opsiynau i gynnig cymorth pellach i bobl ifanc. Y nod yw eu helpu i gael teimlad parhaus o gymuned ar ôl mynychu un o’u gweithdai ZAP.

“Rydym yn gobeithio y byddant yn teimlo cefnogaeth a chysylltiad ymhell ar ôl ein gweithdy ZAP. Rydym am i bobl ifanc deimlo’n rhan o gymuned a deall nad ydynt ar eu pen eu hunain,” meddai Pennaeth Gwasanaethau Digidol, Bryony Glover.

“Dros y chwe mis nesaf, byddwn yn gweithio ar ein strategaeth elusennol. Mae’r cwrs yn dod ar adeg berffaith pan fydd dysgu yn gallu llywio ein gwaith dros y tair blynedd nesaf.”

Logo Tempo. Ysgrifen gwyn ar gefndir glas siap tebyg i driongl

Credydau Amser Tempo

Mae Credydau Amser Tempo yn elusen sy’n gweithio ledled Cymru. Maent yn adeiladu rhwydweithiau o sefydliadau ac yn dod â phobl ynghyd yn eu cymunedau lleol ar gyfer gwaith gwirfoddoli. Gall gwirfoddolwyr ennill credydau amser fel rhan o gynllun gwobrwyo a chydnabod, a’u cyfnewid am wasanaethau a gweithgareddau amrywiol. Mae Tempo yn awyddus i wella eu platfform digidol, yn ehangu nodweddion i ddod yn ddatrysiad ymgysylltiad cymunedol a system gwobrwyo gynhwysfawr.

“Byddwn yn defnyddio’r dysgu o’r cwrs yma i wella ein platfform a chreu buddion go iawn ar gyfer ein dinasyddion a’n gwirfoddolwyr. Rydym am wella gwasanaethau, grymuso unigolion, a hyrwyddo diwylliant o ddysgu ac arloesi,” meddai Brian Ratcliffe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Credydau Amser Tempo.

Logo C3SC gyda'r geiriau Cyngor Trydydd Sector Caerdydd. Ysgrifen dau las gwahanol. Amlinell person gwyn yn y ffigwr 3.

C3SC

Mae C3SC (Cyngor Trydydd Sector Caerdydd) yn darparu cyngor, cymorth a gwybodaeth arbenigol i sefydliadau trydydd sector lleol ar faterion sy’n cael effaith arnynt. Maent yn awyddus i adolygu a datblygu llwyfan cymunedol ar gyfer eu haelodau, sy’n cynnwys 1,300 o elusennau lleol, partneriaid a grwpiau cymunedol.

“Ar hyn o bryd mae’r llwyfan yn cynnig buddion gwahanol, megis fforwm, galluoedd grwpio, a rhannu dogfennau. Ond, cyn ei gyflwyno’n eang, hoffem adolygu ac archwilio ei ddiben, ei botensial, a’r addasiadau pellach sydd eu hangen. Rydym eisiau treialu hwn cyn ei gyflwyno’n eang,” meddai Claire Chick, Rheolwr Datblygu Trydydd Sector C3SC.

“Mae’r cwrs yn gyfle delfrydol i gynllunio ac adolygu’r adnodd yma, wedi’i lunio gan adborth a phrofiad defnyddwyr. Gallem ei ddatblygu’n arf gwerthfawr, hawdd ei ddefnyddio sy’n cefnogi’r sector i gadw ei annibyniaeth a datblygu, cydlynu a darparu mwy o wasanaethau cymunedol sy’n diwallu anghenion a dyheadau’n well ar draws amrywiaeth ein cymunedau lleol.”

Logo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth ar gefndir pink ac ychydig o oren. Logos Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ProMo Cymru a Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector

Darganfod

Mae’r pum sefydliad yma yng ngham Darganfod eu taith cynllunio gwasanaeth. Byddant yn cynnal darn o ymchwil Darganfod ac yn archwilio eu heriau digidol yn fanylach. Byddant yn gwneud hyn wrth ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, casglu mewnwelediadau a chael dealltwriaeth fanwl o’u hanghenion. Edrychwn ymlaen at weld datblygiad eu datrysiadau digidol. Rydym yn gyffrous i weithio gyda nhw a’u cefnogi ar eu siwrne.

Pob lwc!

Ariannir y rhaglen hon trwy’r Rhaglen Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, wedi’i ariannu trwy Gronfa Gymunedol Y Loteri Genedlaethol. Os ydych chi’n sefydliad trydydd sector yn chwilio am gymorth gyda digidol, mwy am y gwasanaethau rydym yn darparu yma.