Cyfle Swydd: Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth

by Andrew Collins | 7th Chw 2019

Mae ProMo-Cymru yn fenter gymdeithasol ac elusen sydd yn darparu datrysiadau datblygiad arloesol yn y sector gymdeithasol. Rydym yn arbenigo mewn cyfathrebu digidol ieuenctid a theulu, eiriolaeth plant ac adfywiad adeiladau cymunedol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’n tîm Gweithredu Cymunedol fel Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth.

Mae Eiriolwyr Gynghorwyr y Llinell Gymorth yn trosglwyddo gwasanaethau llinell gymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi’i selio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person.

Mae’r swydd hon yn gweithio ar sawl prosiect, gan gynnwys Meic Cymru, PwyntTeulu, Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr a Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro.

Lawr lwythwch y swydd ddisgrifiad a’r hysbyseb lawn yma.

Dychwelwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau i info@promo.cymru cyn 10yb ar 11eg Mawrth, 2019.

Cysylltwch â info@promo.cymru/02920 462 222 am wybodaeth bellach.

Dyddiadau Cyfweliadau: 21ain, 26ain, 28ain Mawrth 2019.