by ProMo Cymru | 30th Ebr 2024
Mae ProMo Cymru yn falch iawn o groesawu Molly Brown i’r tîm fel Dylunydd Cyfryngau Digidol ac Animeiddiwr Iau ar interniaeth â thâl.
Mae Molly yng nghanol ei hail flwyddyn yn astudio Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad yn y brifysgol ar hyn o bryd. Gyda phrofiad animeiddio 2D a 3D, VFX a dylunio graffeg, mae Molly yn dod a sgiliau gwerthfawr i’r tîm ac yn awyddus i ehangu ei ymwybyddiaeth o’r diwydiant cynhyrchu cyfryngau.
Mae rôl Molly ar ein tîm Cyfryngau yn cynnwys:
– Creu dyluniadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau wedi’u hargraffu
– Helpu gyda sawl agwedd o gynhyrchu cyfryngau
– Cyfrannu at raffeg symud a phrosiectau animeiddio
– Cynorthwyo yn ein gweithdai a sesiynau hyfforddiant.
Croeso i’r tîm, Molly!