Croesawu Gwestai o Gatalonia

by Tania Russell-Owen | 20th Rhag 2018

Cafwyd diwedd hyfryd i’r flwyddyn gan ProMo-Cymru eleni wrth i ni gynnal ymweliad deuddydd arbennig i westai gwadd o Lywodraeth Catalonia rhwng 22-24 Tachwedd 2018. Ymwelodd pedwar o uwch swyddogion Asiantaeth Ieuenctid Catalonia â ProMo-Cymru a Chaerdydd i ddysgu mwy am y ffordd rydym yn cysylltu â chyfathrebu gyda phobl ifanc yn ddigidol.

Bu ProMo-Cymru yn hwyluso trafodaeth graff  a sesiwn rhannu rhwng y Catalaniaid; Donna Lemin, Cangen Ymgysylltiad Ieuenctid Llywodraeth Cymru; Kelly Harris, Senedd Ieuenctid Cymru; Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru a’r Comisiynydd Plant blaenorol; Jonathan Gunter, Clwb Ieuenctid y Ministry of Life; a Catrin James, CWVYS ac Urdd Gobaith Cymru.

Catalonia visit at Senedd

Teithiau, Arddangosfeydd a Gweithdai

Bu Norma Pujol Farré, Cyfarwyddwr Cyffredin Ieuenctid yn Asiantaeth Ieuenctid Catalonia, yn trydar, “Bore diddorol iawn gyda Donna Lemin o Lywodraeth Cymru a Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru. Rydym hefyd wedi cael clywed am raglenni polisïau digidol gwahanol wedi’u hanelu at bobl ifanc.”

Bu’r gwestai hefyd yn mwynhau teithiau tywys o amgylch canolfan yr Urdd a’r Senedd. Ym Mhencadlys ProMo-Cymru ym Mae Caerdydd, cawsant wybod am ein model TYC, derbyn taith o’r adeilad a mynychu arddangosfeydd a gweithdai am y ffordd rydym yn cynnal ein llinellau cymorth a’r ffordd rydym yn defnyddio’r cyfryngau i gysylltu gyda phobl ifanc, yn rhedeg ein hymgyrchoedd cyfryngau ar-lein ac yn dosbarthu gwybodaeth ieuenctid digidol.

Fideo

Gwyliwch ein fideo i weld ychydig o’r hyn y gwnaethant:

“Roeddem yn falch iawn o gael croesawu ein gwestai arbennig o Gatalonia ac i gael y cyfle i rannu ein hymarferiadau â’n gilydd,” meddai Marco.

“Rwy’n gobeithio eu bod wedi gallu dysgu llawer o’u hymweliad i fynd yn ôl gyda nhw ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein perthynas ymhellach.”

Bu Cesc Poch Ros, Cyfarwyddwr Cyffredinol Asiantaeth Ieuenctid Catalonia, yn trydar hefyd, dywedodd, “Diolch yn fawr am eich croeso, @MarcoGilCer ac yn enwedig am rannu eich gwybodaeth am bolisïau ieuenctid digidol gyda ni (ac am ddangos cyfrinachau Canton) @ProMoCymru.”

Mae’r gwaith yma yn bosib oherwydd grant derbyniwyd gan y Sefydliad Paul Hamlyn. Bwriad y grant yma ydy ehangu ein gwaith presennol a datblygu opsiynau’r dyfodol ar gyfer rhith waith ieuenctid a gwasanaethau gwybodaeth.

Gwybodaeth bellach am ProMo-Cymru

Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’n gwasanaethau neu os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith yma yn ProMo-Cymru cysylltwch â Arielle Tye ar 029 2046 2222 neu e-bostio arielle@promo.cymru.

Gwybodaeth bellach am ein Model TYC yma:

Model TYC ar gyfer erthygl fideo byw