Sut i Greu Cynnwys Cost Isel, Effaith Uchel

by Tania Russell-Owen | 27th Hyd 2016

Mae gan bawb ffôn clyfar y dyddiau hyn, neu lechen (tablet) hyd yn oed. Maent yn gallu helpu chi i greu cynnwys cyfryngau HD deniadol ar gyfer eich gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol neu gyflwyniadau, a (gorau oll) i gost isel iawn!

30536865475_768789a424_k

Nid oes angen i chi fod yn fideograffydd anhygoel i greu cynnwys gweddus ar gyfer eich gwefan. Mae ffonau clyfar a llechennau yn arwain y ffordd yng nghyfryngau cymdeithasol, YouTube hefyd hyd yn oed, felly gallech chi ddechrau creu fideo eich hun wrth ddilyn y camau syml yma:

Beth sydd ei angen:

  1. Ffôn clyfar neu lechen
  2. Treipod bach (prisiau o £5 fel yr un yma, neu un mwy proffesiynol fel yr un yma)
  3. Lensiau (opsiynol o £6 – 3 mewn 1)

30238804060_3788c080f9_k

Felly gadewch i ni edrych ar y broses:

  1. Dewiswch ble rydych chi eisiau ffilmio. Yr elfen bwysicaf wrth ddewis eich lleoliad ydy golau! Mae camerâu di-broffesiynol angen hyn hefyd, felly dewiswch le gyda llawer o olau naturiol. Gallech chi osod lle ger ffenestr (byth yn ei erbyn, gan y bydd yn creu silwét) neu ffilmio tu allan hyd yn oed!
  1. Gosod eich pwnc/person/pobl yn y ffilm. Y ffordd orau i osod eich person/pwnc ydy yn bell o’r cefndir. Bydd hyn yn helpu chi i bylu’r pethau yn y cefndir a chanolbwyntio’r sylw ar y blaendir. Defnyddiwch offer i wella golwg y fideo.
  1. Gosod y camera. Beth sy’n bwysig yma ydy’r safbwynt. Er esiampl, efallai eich bod wedi gweld llawer o fideos coginio ble mae’r ongl camera yn union uwchben, fel y fideo yma gan Tasty. Gelwir hyn yn ‘olygfa oddi uchod’ (bird’s eye view). Dewiswch yr ongl gywir yn ddibynnol ar sut a ble mae’r ddrama’n digwydd fel nad yw’r gynulleidfa yn methu beth sy’n digwydd. Edrychwch yma i weld y gwahanol fathau o saethiadau a’u defnydd.
  1. Amser ffilmio! Ar ôl ymarfer cwpl o weithiau, rydych chi’n barod i bwyso’r botwm recordio! Sicrhewch fod pawb yn aros yn ddistaw os ydych chi’n siarad â’r camera.
  1. Golygu’r darn ffilm. Mae yna lwyth o apiau am ddim gellir eu defnyddio i olygu eich fideos, fel Adobe Premiere Clip. Bydd y rhaglenni yma yn gadael i chi dorri’r ffilm yn hawdd; ychwanegu teitlau a cherddoriaeth, gan gynnwys ffilteri! Gallech chi ei lawrlwytho yma o Google Play, neu yma ar iTunes.
  1. Allforio’ch darn ffilm. Pan rydych chi’n hapus gyda’r canlyniad, gallech chi gadw’r fideo ar eich dyfais ac/neu ei rannu’n syth ar-lein. Hawdd!

“Treuliom ddiwrnod gyda Dayana a Dan a dysgu llawer iawn am sut i wneud darnau syml o gyfryngau er mwyn portreadu rhai o’n prif negeseuon i’n cynulleidfaoedd.

Roedd yn graff iawn ac roedd eu brwdfrydedd yn heintus. Roeddent wedi paratoi adnoddau er mwyn i ni greu clip fideo byr i’w lwytho i fyny’n syth.

Diolch i chi am eich hyfforddiant teilwredig a’r amser rhoddwyd i sicrhau ein bod yn cymryd elfennau defnyddiol ac ymarferol o’r amser treuliwyd yn y gweithdy.”

Martha-Jane Powell, Tîm Switched On

Edrychwch sut defnyddiwyd fideo i wella’r cynnwys ar eu gwefan.

Hoffwn weld eich fideos chi ar-lein yn fuan iawn!

Os hoffech wneud y gorau o’ch fideo, gallem gynnig sesiynau hyfforddi 1 diwrnod i sefydliadau. Mae prisiau ein pecynnau yn gystadleuol iawn, felly cysylltwch am fanylion pellach neu i drafod hyfforddiant teilwredig!

Cynnwys Cost Isel Effaith Uchel