Celf yng Nghanolfan Ieuenctid Gogledd Trelái

by ProMo Cymru | 21st Gor 2023

Mae ProMo-Cymru wedi cael y pleser o weithio gyda phobl ifanc yng Nghanolfan Ieuenctid Gogledd Trelái, Caerdydd, yn ddiweddar. Cawsom ein comisiynu i greu murlun, ac roedd y canlyniadau yn hyfryd!

Mae’r ganolfan wedi adnewyddu ardal yr ardd ychydig flynyddoedd yn ôl ac yn awyddus i orffen hyn i gyd gyda murlun deniadol i addurno’r gofod.

Yn dilyn ethos cyd-gynllunio ProMo-Cymru, cychwynnwyd gydag ymgynghoriad â’r bobl ifanc am eu syniadau. Cawsant gyfle i fod yn greadigol yn braslunio blodau, planhigion a choed ar bapur i weld beth oeddent yn hoffi. Penderfynwyd ar goeden gyda blodau’n blodeuo i adlewyrchu adfywiad y gofod tu allan newydd.

Cyfnod olaf y prosiect oedd peintio’r murlun. Aeth Augustė Poškaitė a Daniele Mele o ProMo draw i ddysgu’r broses o greu murlun i’r bobl ifanc, chwarae gyda lliwiau gwahanol a’u helpu i beintio’r dail a’r blodau. Roedd cyfrannu i brosiect fydda’n rhan o’u canolfan ieuenctid am flynyddoedd i ddod, yn wobrwyol iawn.

Diolch i bobl ifanc Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái am eu gwaith caled a’u talent!

Diddordeb mewn cyd-gynllunio gwasanaethau? Cysylltwch – info@promo.cymru