CDPS Cymru

by Nathan Williams | 8th Rhag 2020

Roedd ProMo-Cymru yn hapus iawn i gael siarad gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru (CDPS) yn ddiweddar i glywed am eu dull Cynllunio Gwasanaeth i gynllunio gwasanaethau cyhoeddus gwell. Hoffem drafod y rhesymau pam bod y dull yma mor bwysig.

Mae CDPS Cymru yn defnyddio methodoleg Cynllunio Gwasanaeth i feddwl am sut i gynllunio gwasanaethau digidol orau gan roi’r ystyriaeth fwyaf i anghenion y defnyddiwr. Dyma safonau CDPS Cymru:

  1. Canolbwyntio ar les presennol, a lles y dyfodol, pobl Cymru
  2. Hyrwyddo’r iaith Gymraeg
  3. Deall defnyddwyr a’u hanghenion
  4. Ailadrodd a gwella yn aml
  5. Defnyddio data ac ymchwil defnyddwyr i wneud penderfyniadau
  6. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch trwy’r amser
  7. Mae pob gwasanaeth angen perchennog gwasanaeth awdurdodedig
  8. Mae pob gwasanaeth angen tîm amlddisgyblaethol
  9. Defnyddio technoleg graddiadwy
  10. Gweithio yn yr agored

Manylion pellach am y safonau yma

Rydym yn gefnogol o’r dull Cynllunio Gwasanaeth hefyd. Gellir ei ddefnyddio i greu gwasanaethau digidol a gwasanaethau sydd ddim yn ddigidol. Rydym yn awyddus i rannu pam ein bod yn teimlo bod y dull yma mor bwysig.

Bu ProMo-Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ddiweddar. Roedd y bwrdd iechyd yn awyddus i ddarganfod sut i ddarparu gwasanaethau orau i gyfarfod anghenion pobl ifanc. Cawsom siarad gyda phobl ifanc fydda efallai wedi defnyddio’r gwasanaeth, i edrych ar bethau o’u safbwynt hwy a deall y rhwystrau wrth gysylltu gyda gwasanaeth cyffuriau ac alcohol.

Rhoddwyd senarios i’r bobl ifanc a gofyn iddynt sut byddant yn ymddwyn os byddai’r sefyllfa yna yn digwydd iddyn nhw. Gofynnwyd cwestiynau fel

“Pa gamau fyddet ti’n eu cymryd petai dy ffrind yn ddiymwybod wedi meddwi mewn parti?”

“Ym mha sefyllfaoedd wyt ti’n meddwl byddai cyffuriau ac alcohol yn dod yn broblem i ti neu eraill?”

Ar ôl mynd i fanylder dwfn i ganfyddiadau ac agweddau pobl ifanc am gyffuriau ac alcohol, ar hyn oedd yn dderbyniol iddyn nhw neu beidio, gofynnwyd iddynt sut hoffant gael mynediad i gymorth a pryd fyddant angen hynny.

Roedd sawl person ifanc yn mynegi’r angen am wasanaethau dienw, llefydd gellir chwilio am gyngor yn hawdd, am ddim ac yn gyfrinachol.
Ond, pan ofynnwyd yr un cwestiwn i grŵp o bobl ifanc o gymuned ble roedd y defnydd o sylweddau yn broblem sylweddol, roedd y darganfyddiadau yn wahanol iawn. Roedd y bobl ifanc yma wedi’u diarddel o’r ysgol, rhai wedi bod mewn trafferth gyda’r heddlu, a sawl un gyda phrofiad o ddefnydd sylweddau yn cael effaith arnyn nhw a’u teulu.

Yr ymateb fwyaf cyffredin gan y grŵp oedd na fyddant yn ystyried defnyddio gwasanaeth cyffuriau ac alcohol gan ofni byddant yn gorfod mynd i ofal neu ddod i drafferthion gyda’r heddlu. Roedd y bobl ifanc yn ymwybodol iawn o’r ddyletswydd gofal sydd gan weithwyr proffesiynol i gysylltu â’r awdurdodau os ydynt yn dweud unrhyw beth sydd yn rhoi eu hunain, neu eraill mewn perygl.

Roedd y broses yma yn amlygu rhwystr go iawn i bobl ifanc gael mynediad i gefnogaeth. Roedd y cwestiwn o sut i gynllunio gwasanaeth orau wedi newid o “sut mae darparu’r gwasanaethau cyffuriau ac alcohol orau er mwyn ymateb i anghenion bobl ifanc?” i “sut ydym ni’n sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel i chwilio am gefnogaeth pan fyddant ei angen?”

Mae’r esiampl yma yn arddangos gwerth ymchwil defnyddwyr. Mae sawl gwasanaeth yn cael eu cyfyngu oherwydd y dyluniad cychwynnol sydd wedi’i selio ar ragdybiaeth o’r hyn mae pobl ei angen a beth sydd wedi cael ei ddarparu gynt. Mae Cynllunio Gwasanaeth yn gallu cychwyn newid sut mae gwasanaethau yn gweithio gyda phobl, ac iddynt, wrth osod pobl yng nghanol dyluniad gwasanaethau newydd a phresennol.

Rydym yn andros o falch bod CDPS bellach yn hyrwyddo Cynllunio Gwasanaeth yn y sector cyhoeddus, a byddem yn cefnogi’r cynnydd ac yn rhannu’r hyn dysgir gyda’r sefydliadau cyhoeddus, ieuenctid a trydydd sector rydym yn gweithio â nhw.

Am wybodaeth bellach ar CDPS https://gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru/

I siarad â ni am Gynllunio Gwasanaeth cysylltwch â arielle@promo.cymru