Croeso i Lucy

by ProMo Cymru | 14th Maw 2023

Mae ProMo-Cymru yn falch iawn i groesawu Lucy Palmer fel ein Cynorthwyydd Marchnata Digidol. Bydd yn ein helpu i siarad gyda mwy o bobl ifanc a rheoli ein presenoldeb cynyddol ar TikTok.

Llun o Lucy Palmer yn gwisgo top ddu ar gefndir du

Cychwynnodd Lucy gyda ProMo trwy leoliad profiad gwaith wedi ei drefnu gan Go Wales (bellach  yn Career Confident) ar gychwyn 2022. Trefnodd ymgyrch wythnos o hyd ar y thema iechyd meddwl ar gyfer gwasanaeth y Sprout. Yna daeth yn aelod o staff yn cael ei thalu i weithio un diwrnod yr wythnos fel creawdwr cynnwys TikTok ac yn rhedeg TikTok y Sprout. Bellach mae wedi ei hapwyntio’n aelod llawn amser o staff ProMo.

Mae Lucy yn angerddol am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi gwybodaeth a llais i bobl ifanc. Ar TikTok y Sprout mae wedi rhedeg sawl ymgyrch. Mae hyn yn cynnwys ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis a gafodd dros 3.6 miliwn yn gwylio. Mae hefyd wedi gweithio gyda’r YMCA i redeg ymgyrch yn hyrwyddo addysg a lleihau’r stigma o amgylch iechyd rhywiol. Prosiect arall mae wedi bod yn rhan ohono yw’r prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol.

Croeso i’r tîm yn llawn amser Lucy!