by Dayana Del Puerto | 30th Meh 2016
Yn gynharach ym mis Mehefin, bu Caerdydd yn cynnal dathliad unigryw, yn arddangos dawn ryngwladol. Dyma oedd Gŵyl y Llais gyntaf Canolfan y Mileniwm: digwyddiad bythgofiadwy.
Gydag enwau mawr fel Charlotte Church, John Cale a Bryn Terfel yn perfformio ar draws Caerdydd, bu’r ŵyl hefyd yn anelu i cynnig profiad unigryw i bobl ifanc Caerdydd: i ysgrifennu, arwain ac i ddarlledu rhaglenni radio am y perfformiadau yn yr orsaf pop-up y Ganolfan.
Cawsom ein gwahodd i hyfforddi grwpiau o bobl ifanc y ddinas, o sefydliadau lleol Grassroots, Valleys Kids a theSprout, er mwyn eu paratoi am wythnos o ddarlledu.
Mae gan ProMo-Cymru brofiad eang yn ymgysylltu â phobl ifanc trwy brosiectau a gwasanaethau fel theSprout. Rydym wedi datblygu a darparu prosiectau sy’n blatfform i bobl ifanc medru uwchseinio’u llais ac yn hybu newid positif yn gymunedau ac ar y gwasanaethau sy’n heffeithio nhw.
Gyda chefndir da mewn radio a fformatau aml-gyfryngol, aeth ein Rheolwr Cyfathrebu, Arielle Tye, a’n Swyddog Amlgyfryngau, Dayana Del Puerto, ati i fynd â’r bobl ifanc trwy’u hyfforddiant: Paratoi i Gyflwyno Darllediad Radio.
Cafodd yr hyfforddiant ei ddarlledu ar ffrwd fyw Facebook theSprout ac yn cynnwys:
Mae gan ProMo-Cymru brofiad eang yn ymgysylltu â phobl ifanc trwy brosiectau a gwasanaethau fel theSprout. Rydym wedi datblygu a ddarparu prosiectau sy’n blatfform i bobl ifanc medru uwchseinio’u llais ac yn hybu newid bositif yn cymunedau ac ar y gwasanaethau sy’n heffeithio nhw.
–> Dangos pobl ifanc sut i siarad â chynulleidfa penodol — ffurfiol, anffurfiol ayyb
–> Dysgu am gyfarpar radio
–> Creu a recordio bwletin newyddion eu hun
–> Sut i gynnal gyfweliad
Be’ sy’ nesaf am Radio Platfform?
Dywedodd Jason Camilleri (Swyddog Dysgu Creadigol y Ganolfan) :
“We are currently looking at what we will do with the radio moving forward, and will hopefully propose a plan soon. We would love the guys that were involved to continue in some way.”
Am ddysgu mwy am Radio Platfform? Darllenwch blog Anna!
Gall ProMo-Cymru ddarparu sawl fath o hyfforddiant yn cynnwys:
–> Creu Cynhyrchiad Fideo
–> Animeiddio (Claymation)
–> Ysgrifennu Creadigol Gyda Cherddi
Os ydych chi am i ni ddarparu hyfforddiant i’ch sefydliad chi, cysylltwch â ni.