Ymgyrch Pride TheSprout yn Mynd Yn Feirol ar TikTok

by Halyna Soltys | 2nd Hyd 2022

Roedd TheSprout, safle blogio a gwybodaeth ar-lein i bobl ifanc 11-25 yng Nghaerdydd, wedi manteisio ar y cyfle i siarad gyda phobl ifanc yn Pride Cymru am yr hyn yr oedd Balchder LHDTC+ yn ei feddwl iddyn nhw.

Aeth Lucy a Megan, dau aelod staff ifanc ProMo-Cymru, y sefydliad dielw sydd yn cynnal TheSprout, draw i ŵyl Pride Cymru 2022 i siarad gyda’r bobl ifanc yno.

Roeddem yn awyddus i ddathlu pobl ifanc LHDTC+ y tu allan i fis Pride ac amlygu bod codi ymwybyddiaeth, ymgyrchu a llawenydd cwiar yn rhywbeth oedd angen ei ddathlu y tu hwnt i fis Mehefin. Pride #MwyNaMis!

Cardiff Pride: More Than a Month Banner

Pride Caerdydd: Mwy Na Mis

Holwyd 21 o bobl ifanc, ac aeth 3 o aelodau ifanc tîm creadigol TheSprout ati i greu’r ymgyrch gan ddefnyddio’r atebion, gyda’r bwriad o amlygu teimladau, pryderon a phrofiadau’r bobl ifanc a fynychodd Pride Cymru.

Rhannodd Lucy, 21, “roedd yn bleser cael siarad gyda’r bobl ifanc a chlywed eu teimladau. Roeddent yn mynegi eu hunain yn eglur, a dysgais lawer iawn ganddynt.”

Roedd Halyna, Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Cynnwys TheSprout, yn cytuno ac ychwanegodd ei bod yn “hyfryd bod pobl ifanc eisiau rhannu eu profiadau a’u teimladau am faterion LHDTC+. Gellir cyflawni newid ar y fath yma o lwyfan.”

Yn ystod wythnos yr ymgyrch, cyhoeddwyd 14 o flogiau a 101 cynnwys cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys 27 o fideos TikTok.

Roedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y cyfweliadau wedi gwerthfawrogi a mwynhau’r profiad o gael siarad yn agored. Roedd un person ifanc cyfwelwyd wedi gadael sylwad ar un fideo yn dweud, “Dyna fi! Roedd yn gymaint o hwyl cymryd rhan, uchafbwynt y dydd”.

Ymgysylltiad

Wrth i’r fideos gael eu cyhoeddi, roedd un yn cael llawer o sylw yn sydyn iawn ac yn cynyddu yn ei boblogrwydd. Wrth i’r gwylio cynyddu, felly hefyd roedd yr hoffi a’r sylwadau. Mae’r fideo wedi ei wylio dros 3 miliwn o weithia hyd yn hyn, dros filiwn o fewn y 24 awr gyntaf.

Gwyddem y gall y pwnc sgwrs fod yn un ‘dadleuol’ – ceir trafodaethau dwys am rywioldeb, rhyw a hunaniaeth rhyw, ond nid oedd dim wedi ein paratoi am y cysylltiad enfawr cafwyd ar TikTok.

Roedd llawer o sylwadau calonogol a phositif, yn cynnig geiriau o gefnogaeth i’r bobl ifanc yn y fideos.

‘Wyddwn i ddim bod anrhywiol yn beth… dwi’n gwybod beth ydw i nawr’

‘”Cariad pur i’r enaid” dwi’n caru hynna, dwi am ddefnyddio hwnna pan fydd cydweithwyr hŷn yn gofyn beth yw pan’

‘Ooooh mae hwn yn ffordd wych i addysgu pobl’

‘Mor ysbrydoledig a lliwgar’

Roedd yr adran sylwadau hefyd yn le i ddefnyddwyr TikTok drafod a gofyn cwestiynau. Roedd hyn yn cynnwys un defnyddiwr yn gofyn ‘gyda phob parch, dwi wedi drysu braidd gan ein bod ni’n brwydro yn erbyn cael ein “labelu” pan oeddwn i’n ifanc. Barn am y newid yma? Diolch’

Ymateb un person oedd bod ‘hunaniaeth rhyw yn rhoi cysur ac yn cyfrannu at y person ydw i!! Ond ie, nid oes rhaid i ti gael dy labelu, ac mae hynny’n iawn. Gobeithio bod hynny’n helpu!’.

Ond roedd llawer o sylwadau cas hefyd. Treuliwyd llawer o oriau yn monitro’r adran sylwadau, yn blocio pobl rhag rhannu sarhad ac yn dileu sylwadau fel ein bod yn lleihau’r negeseuon niweidiol cymaint â phosib. Tra bod y cysylltiad anhygoel yn teimlo’n gyffrous ac yn wobrwyol, roedd yn dorcalonnus hefyd gan ei fod yn ategu faint o gasineb sydd yn digwydd ar-lein.

Canlyniadau

Roedd yr ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis yn gyfle gwych i bobl ifanc rannu eu hunaniaeth a’u teimladau am fod yn LHDTC+ yng Nghymru. Roedd yr ymgyrch yn cynnig llwyfan i leisiau pobl ifanc LHDTC+ ac yn sicrhau eu bod yn cael eu clywed, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang! Roedd y casineb derbyniwyd yn y sylwadau yn dangos pa mor bell rydym ni fel cymdeithas angen symud ymlaen i sicrhau bod pobl ifanc LHDTC+ yn teimlo’n ddiogel, wedi’u cefnogi, eu derbyn a’u cynnwys.

Darllenwch fwy am yr ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis ar wefan TheSprout, neu ymwelwch â’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i fod yn rhan o’r sgwrs.