Yn Recriwtio: Tîm Prosiect Meddwl Ymlaen Gwent

by Halyna Soltys | 3rd Awst 2022

Mae ProMo-Cymru yn recriwtio staff ar gyfer y prosiect Meddwl Ymlaen Gwent.

Gweledigaeth ProMo-Cymru

Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn cyfrannu, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed.

Ein Dull o Weithio

Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.

Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebiadau, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol, digidol a chynnyrch cyfryngol. Mae dros 20 mlynedd o drosglwyddo prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol yn dylanwadu ein gwaith. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn creu partneriaethau hir dymor fydd yn buddio pobl a sefydliadau.

Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol; mae’r elw yn cael ei fuddsoddi’n ôl i’n prosiectau cymunedol.

Gwybodaeth am Meddwl Ymlaen

Wrth weithio law yn llaw dros gyfnod 5 mlynedd gyda’n prif bartner trosglwyddo Mind Casnewydd, ein partneriaid prosiect a phobl ifanc, byddem yn cynllunio dulliau newydd ymyrraeth gynnar ac atal problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc sydd yn byw yng Ngwent.

Fel aelod gwerthfawr o’r tîm ProMo-Cymru byddech yn trosglwyddo’r prosiect cyffroes ac arloesol Meddwl Ymlaen Gwent. Byddech yn gosod pobl ifanc wrth galon y dylanwadu a throsglwyddo newid ystyrlon i wasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent sydd yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, byddech yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o hapddalwyr gan gynnwys pobl ifanc, Mind Casnewydd, Mind Lleol yng Ngwent a Gwasanaethau Ieuenctid Gwent trwy gyfnod y prosiect.Ariannir y prosiect Meddwl Ymlaen gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Swyddi Agored

Mae ProMo-Cymru yn recriwtio ar gyfer 3 swydd newydd i helpu gyda’r prosiect Meddwl Ymlaen Gwent:

Rheolwr Prosiect Meddwl Ymlaen Gwent

Mae ProMo-Cymru yn chwilio am Reolwr Prosiect trefnus a phrofiadol i arwain ar a chydlynu trosglwyddiad y prosiect cyllidwyd gan y Loteri Genedlaethol, Meddwl Ymlaen Gwent.

Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Croesawir ceisiadau rhan-amser/rhannu swydd

Cyflog cychwynnol £31,301

Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid)

Swyddog Prosiect Meddwl Ymlaen Gwent

Mae ProMo-Cymru yn chwilio am Swyddog Prosiect brwdfrydig ac yn gallu ysgogi ei hun i gefnogi gyda throsglwyddo’r prosiect Meddwl Ymlaen cyllidwyd gan y Loteri Genedlaethol.

Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Croesawir ceisiadau rhan-amser/rhannu swydd

Cyflog cychwynnol £23,471

Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid)

Swyddog Cyfathrebu Meddwl Ymlaen Gwent

Mae ProMo-Cymru yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu creadigol i gefnogi gyda throsglwyddo’r prosiect Meddwl Ymlaen Gwent cyllidwyd gan y Loteri Genedlaethol.

Rhan amser (7 awr yr wythnos)

Cyflog cychwynnol £20376 – £21448 (pro-rata)

Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid)

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Cyflwynwch ddatganiad yn manylu sut rydych chi’n cyrraedd y meini prawf manylir yn y fanyleb person ynghyd â CV diweddar i: pat@promo.cymru

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r swydd, e-bostiwch Arielle: arielle@promo.cymru

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 23ain Awst 2022 am 5yp

Dyddiadau cyfweliad: Dydd Llun 5ed Medi, dydd Mercher 7fed Medi, a dydd Iau 8fed Medi 2022.

Amcan ddyddiad cychwyn: Dydd Llun 10fed Hydref 2022

Mae ein partneriaid prosiect, Mind Casnewydd, hefyd yn recriwtio staff i gefnogi Meddwl Ymlaen Gwent. Ewch i weld y swyddi gan Mind Casnewydd.