TheSprout Yn Blaguro: OCD Yn Dal Gafael ac Amser Am Gredydau Amser

by Tania Russell-Owen | 9th Tach 2016

OCD: Only Cardiffians’ Disorders (Anhwylderau Pobl Gaerdydd Yn Unig)

Mae TheSprout, cylchgrawn ar-lein a gwefan gwybodaeth Caerdydd i bobl ifanc (yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru gyda phobl ifanc), wedi nodi dau ddyddiad ym mis Hydref sydd yn bwysig pan ddaw at ymwybyddiaeth iechyd meddwl gyda chynnwys wedi’i lywio gan bobl ifanc.

Wrth annog straeon pobl ifanc, cyngor, ysgrifennu creadigol… beth bynnag…, ymunodd TheSprout yn Niwrnod Iechyd Meddwl Y Byd (10fed Hydref) ac Wythnos Ymwybyddiaeth OCD (9fed-15fed Hydref)

“Gallech chi oresgyn OCD, yn union fel y gallech oresgyn unrhyw gaethiwed”

#FyStori: OCD (darn gwych ar OCD: beth, pam a gobaith).

Gall unrhyw berson ifanc rannu unrhyw beth sydd ar eu meddwl (ond cadwch pethau’n lân os gwelwch yn dda!) trwy TheSprout… er esiampl, ydych chi erioed wedi darllen cerdd OCD?

“OCD has a hold on me. I like to check the door, then the key:

Door handle-key, door handle-key, door handle-key, door handle-key

Door handle-key… “Nope, that’s not quite sitting right on me”…

Door handle-key… “Nope, I didn’t check the handle fully”…”

– parhewch i ddarllen: Poem: OCD Has A Hold On Me.

Cafodd y darnau yma eu perfformio’n fyw fel rhan o berfformiadau aml leoliad, dros gyfnod o sawl mis, o Vexations, fel ffordd o gasglu arian i OCD UK. Yn rhyfeddol mae’n daflen sengl o gerddoriaeth wedi’i gyfansoddi gan Eric Satie sydd yn cael ei ailadrodd 840 o weithiau!

Mae TheSprout wedi nodi yma rhai o’r llinellau cymorth, gwefannau a sefydliadau gorau ar gyfer gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghaerdydd. Rhannwch hyn gydag unrhyw un gallai fuddio ohono.

Amser Am Gredydau Amser

Am y tro cyntaf erioed, ym mis Hydref, roedd TheSprout yn cynnig Credydau Amser ar gyfer cynnwys ar themâu penodol (ia dyna chi… iechyd meddwl!).

Byddem yn annog sefydliadau eraill i edrych ar bosibiliadau’r ‘arian’ yma fel gwobr ac ysgogiad am amser bobl ifanc.

Daw moron ymhob maint a siâp, fel ysgewyll (sprouts) wrth gwrs, a dyma restr o ble gellir gwario Credydau Amser yn Ne Ddwyrain Cymru.

Yn fis Tachwedd mae grŵp llywio TheSprout sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc, Grŵp Golygyddol Sprout, wedi penderfynu dylid gwobrwyo Credydau Amser am unrhyw gynnwys sy’n ymwneud â bwlio, yn barod am #ABW2016.

bullying-7-ways

Pobl ifanc, gellir cyflwyno yma.

Dy lais di, dy Sprout di.

Holl erthyglau Iechyd Meddwl wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc

Ble i gyflwyno