I Ddod: Diwrnod Agored ProMo-Cymru

by Tania Russell-Owen | 26th Medi 2018

Mae yna gyffro mawr ym Mhencadlys ProMo-Cymru ar hyn o bryd wrth i ni baratoi ar gyfer ein Diwrnod Agored dydd Gwener, 28 Medi 2018. Rydym yn edrych ymlaen at gael tywys ein gwestai o gwmpas ein heiddo newydd a dangos ein gwaith.

Symudodd ProMo-Cymru i eiddo newydd ym Mae Caerdydd mis Medi diwethaf. Am y tro cyntaf roedd y tîm i gyd gyda’i gilydd. Rheolwyr, gwasanaethau crai, cyfathrebu, creadigol a gwasanaethau llinell cymorth i gyd o dan yr un to.

Dechrau paratoi ar gyfer y Diwrnod Agored

Y buddiannau

“Mae’r adeilad newydd yn caniatau i ni weithio mewn timau traws-swyddogaethol, yn dysgu ac yn gweithio gyda’n gilydd i ddylunio a throsglwyddo gwasanaethau mwy effeithiol. Rydym yn rhannu’r gofod gyda’n partneriaid yn DTA Cymru sy’n rhoi cyfleoedd gwell i gydweithio, ” eglurai Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr.

Mae hyn wedi profi i fod yn fuddiol yn barod wrth i’r tîm creadigol a staff y llinell gymorth gydweithio i greu ymgyrch sydd wedi ennill gwobrau, Pili-pala. Mae bod yn yr un gofod â’n gilydd yn golygu bod gweithio â’n gilydd yn llawer haws ac yn caniatáu i ni weithio ar y cyd ar ymgyrchoedd fel yr ymgyrch Caniatâd sydd yn rhedeg ar Meic ar hyn o bryd.

Bellach mae gennym ddigon o le i weithio, i fod yn greadigol, i gynnal cyfarfodydd a rhedeg sawl llinell gymorth. Gallem logi’r gofod yma allan hefyd fel bod eraill yn gallu buddio ohono.

“Rydym yn cynnig mwy o leoliadau i wirfoddolwyr ac yn bwriadu creu gofod ble bydd pobl ifanc yn teimlo gallant ddatblygu syniadau, dysgu sgiliau a dylanwadu ar ein gwaith. Mae ProMo-Cymru wedi bodoli ers dros 30 mlynedd. Yn edrych ymlaen at y bennod nesaf!” meddai Arielle Tye, Rheolwr Prosiectau yn ProMo-Cymru.

Blwyddyn yn ddiweddarach ac rydym yn falch o fedru rhannu’r gofod yma gyda chi. Cawn ddangos sut mae’r adeilad newydd yn caniatáu i ni dyfu a chynnig mwy o wasanaethau i’r trydydd sector a’r sector gyhoeddus.

Ychydig o’r gofod newydd sydd ar gael i’w logi

Y diwrnod agored

Dydd Gwener bydd Vaughan Gething AC yn agor yr adeilad yn swyddogol. Byddem yn rhoi teithiau tywys o amgylch y swyddfa newydd ac yn sgwrsio gyda phobl am ddylunio gwasanaethau. Byddem yn arddangos ychydig o’n gwaith. Gall gwestai rwydweithio gyda chyd-weithiwyr y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Bydd yna wledd i’w gael gyda bwffe a pherfformiad byw gan ein ffrind Sarah McCreadie. Roedd Sarah yn hanfodol yng nghynhyrchiad yr ymgyrch Pili-pala sonnir uchod.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein diwrnod agored neu ein gwasanaethau e-bostiwch Arielle Tye, arielle@promo.cymru i wneud ymholiadau pellach.