Gwersi o Ewrop: Gwybodaeth Ieuenctid a Chyfathrebu Digidol

by Dayana Del Puerto | 25th Mai 2016

Bu ProMo Cymru i gynhadledd yn ddiweddar yn archwilio’r pwnc Gwybodaeth Ieuenctid mewn Oes Ddigidol yn Helsinki. Pa wersi dysgwyd yn #Eryica30 a #Digiera30?

Mae Swyddog Cyfathrebu ProMo, Arielle Tye, yn rhannu’r gwersi pwysicaf:

Y peth oedd yn fy nharo oedd faint o bwyslais oedd yn cael ei roi ar wybodaeth ieuenctid mewn rhannau eraill o Ewrop a sut mewn cyfnod o lymder mae hyn yn parhau i fod ar frig yr agenda.

Yng Nghatalonia mae yna rwydwaith o dros 300 o bwyntiau gwybodaeth ieuenctid, i gyd yn rhannu gwybodaeth yn ddigidol trwy app symudol a gwefan. Roedd y syniad bod gweithwyr gwybodaeth ieuenctid yn gallu rhannu gwybodaeth ieuenctid hanfodol ymysg ei gilydd ar glic botwm wedi creu argraff arnaf. Gellir pasio hyn ymlaen i’r bobl ifanc sydd yn mynychu un o’r 300 o bwyntiau gwybodaeth ieuenctid. Am gyfle pwerus iawn i sicrhau bod miloedd o bobl ifanc yn gallu derbyn yr un wybodaeth ble bynnag y maent neu pwy bynnag ydynt.

Roedd datblygiad grwpiau cyfryngol ieuenctid Y Ffindir hefyd wedi creu argraff arnaf; yn cael eu cynorthwyo i adrodd ar ddigwyddiadau lleol, democratiaeth a gweithgareddau o’u safbwynt nhw. Roedd y model yma yn bodoli yng Nghymru cynt dan y rhwydwaith CLICarlein, ble, yn nodedig, roedd gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru wefan gwybodaeth ieuenctid eu hunain wedi’i arwain gan grŵp o ohebwyr ifanc yn creu’r cynnwys, oedd yn arwain y ffordd i’r Ffindir. Yn anffodus mae mwyafrif y rhwydwaith wedi teimlo effaith y mesuriadau llymder, a dim ond ychydig o wefannau sy’n parhau i fodoli. Wedi’u cysylltu yn rhith cynt, mae’r ychydig wefannau sydd ar ôl bellach yn sefyll ar ben eu hunain, yn gweithio’n annibynnol o’i gilydd. Roedd hyn yn gwneud i mi adlewyrchu am yr angen am rwydwaith cyfathrebu ieuenctid tra yn Helsinki, yn teimlo colled ac yn gofyn pam, yng Nghymru, rydym wedi cymryd cam yn ôl, tra bod eraill, fel Y Ffindir, wedi defnyddio ein hesiamplau i symud ymlaen?”

sprout heads

ProMo-Cymru yn cynnal pwyllgor hyfforddiant EYRICA yn 2010 — Mike Conroy – Darlithydd Ieuenctid a Chymuned – Prifysgol Casnewydd yng Nghaerleon. Imre Simon – Rhwydwaith Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewropeaidd, Alexandra Beweiss, Cyfarwyddwr POYWE, Awstria, Johan Bertels, Gwlad y Belg. Darlithydd Prifysgol Bruges, Mika Pieltila, Koordinaatti – Gwybodaeth Ieuenctid Y Ffindir

Roeddwn yn teimlo gwir ddealltwriaeth wrth siarad gyda’r gweithwyr ieuenctid o’r sefydliad Koordinaatti yn Y Ffindir am bwysigrwydd model gohebydd ieuenctid i annog pobl ifanc i gael llais. Roedd Y Ffindir yn ymddangos fel eu bod yn cofleidio technoleg ddigidol i wella’r llais ieuenctid a democratiaeth trwy eu gwefan. Mae’n blatfform lle gall pobl ifanc bostio menter, yna gall eraill bleidleisio o’i blaid neu yn ei erbyn. Mae pob menter yn cael ei fwydo i mewn i adrannau perthnasol Llywodraeth Y Ffindir ac yn creu cyswllt union rhwng pobl ifanc a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

“Roeddwn yn gadael y gynhadledd yn teimlo wedi fy ysbrydoli gyda’r defnydd o gyfathrebu digidol i wella mynediad pobl ifanc i wybodaeth, i rannu newyddion a barnau a’i allu i greu cyswllt rhwng pobl ifanc a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.”

Mae wedi gwneud i mi adlewyrchu ar y pethau rydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Mae llawer o ganolfannau gwybodaeth wedi cau yn ogystal â’r platfform Gwybodaeth Ieuenctid Cenedlaethol (CLICarlein) wedi rhedeg gan ProMo-Cymru. Ond, mae’n bwysig amlygu bod y prosiect Meic, ariannir gan Lywodraeth Cymru, yn gryf ac yn tyfu. Dyma’r llinell gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ar agor o 8am – hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn. Rhannom yr esiampl yma yn y gynhadledd fel esiampl o ymarfer gorau yn ogystal â llwyddiant theSprout.co.uk. Roedd yn ymddangos fel bod ein gwasanaethau ar flaen y gêm yn nhermau sut i ymrwymo gyda nifer eang o bobl ifanc, ond efallai gallem ddysgu mwy am sut maent yn cysylltu’n well gyda’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau?

Dwi’n cael fy atgoffa o hyd bod gwybodaeth ddigidol yn bwysig drwy amryw adroddiad, llenyddiaeth ac esiamplau o ymarfer da dwi’n ei ddarllen ac yn clywed amdanynt. Dwi’n credu’n gryf bod posib defnyddio technoleg ddigidol i gynyddu ymrwymiad, gwella mynediad i ddemocratiaeth a darparu gwybodaeth ar raddfa eang.

Mae’n ymddangos fel nad dylid bod esgusodion yn yr ‘oes ddigidol’ yma i wneud mynediad i wybodaeth yn haws, yn decach ac yn fwy cyfartal.


Eisiau cysylltu gyda ni am unrhyw beth rydych chi wedi’i ddarllen yn yr erthygl yma?

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs, felly cysylltwch.