by Andrew Collins | 24th Meh 2022
Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth (llawn amser/rhan amser)
Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref
Cyflog: £23,471
Wedi ei adnewyddu am dymor 4 mlynedd arall, mae’r gwasanaeth arobryn Meic yn ehangu ac yn datblygu. Wrth weithio yn y Tîm Gweithredu Cymdeithasol byddech yn cyflwyno gwasanaethau llinell gymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth sydd wedi’i selio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y bobl, i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Byddech yn gallu:
– creu cysylltiad positif gydag amrywiaeth eang o bobl
– creu gwahaniaeth positif gyda’r bobl sydd yn cysylltu â chi
– bod yn ddylanwad positif ar y tîm
– gweithio shifftiau gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau
Yn ddelfrydol byddech yn gallu:
– cyfathrebu yn y Gymraeg neu’n fodlon dysgu
Dyddiad Cau: 9yb, Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2022
Dyddiadau Cyfweld (Zoom): 26, 27, 28 Gorffennaf 2022
Bydd angen gwiriad DBS uwch.
Gellir lawr lwytho pecynnau cais isod:
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg at: info@promo.cymru
Mae ProMo-Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal
Mae ProMo-Cymru Cyf yn elusen gofrestredig. Rhif elusen: 1094652 Rhif Cwmni Cyfyngedig: 1816889