Author Archives: Marco Gil-Cervantes

  1. Swyddfa Newydd ProMo-Cymru: Tîm Cyfathrebu’r 1af i Mewn

    by Marco Gil-Cervantes | 11th Gor 2017

    Y Tîm Cyfathrebu, Cyfryngau a Chelfyddydau ydy’r tenantiaid cyntaf o swyddfa newydd ProMo-Cymru ar 17 Stryd Gorllewin Bute.

    Ar hyn o bryd rwyf yn eistedd yn ein swyddfa newydd yn 17 Stryd Gorllewin Bute. Rydym yn parhau i fod ym Mae Caerdydd ond, yn hanfodol, rydym bellach yn agosach i Nata & Co a Pizza Pronto.

    Mae’r Tîm Cyfathrebu, Cyfryngau a Chelfyddydau wedi gadael Gweithdai Royal Stuart am byth. Rydym yn parhau i ddadbacio, er mae’r peiriant coffi wedi’i osod ac yn gweithio – hwnnw ydy calon y swyddfa yma wedi’r cwbl. Oherwydd hyn efallai bydd ymateb i e-byst a galwadau yn cymryd ychydig yn hirach wrth i ni ddadbacio.

    'Bye 12' for ProMo-Cymru move to new office blog - 17 West Bute Street

    Ond, bydd y Tîm Rheoli, Gwasanaethau Craidd a Gweithredu Cymdeithasol yn parhau i weithio’r un peth. Nid ydynt yn symud i swyddfa newydd ProMo-Cymru tan hwyrach yn 2017.

    Cyfeiriad ein swyddfa newydd

    Mae’r rhifau ffôn yr un peth a’r cyfeiriad newydd ydy:

    17 Stryd Gorllewin Bute
    Bae Caerdydd
    Caerdydd
    CF10 5EP

    Mae gan y Tîm Cyfathrebu cynlluniau mawr ar y gweill ar gyfer y swyddfa newydd. Rydym yn awyddus i ddefnyddio’r gofod i weithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc a’r gymuned leol. Byddem yn blogio llawer mwy am ein cynlluniau ar gyfer y swyddfa newydd yn yr wythnosau nesaf.

    Yn y cyfamser, beth am ddod draw am goffi bach?

     

  2. Meic: Mae 76% o blant a phobl ifanc yn teimlo nad yw oedolion yn cymryd eu barn o ddifrif

    by Marco Gil-Cervantes | 23rd Meh 2017

    Mae llai nag chwarter o bobl dan 25 oed yng Nghymru yn teimlo bod eu barn yn cael ei gymryd o ddifrif. Datgelwyd y wybodaeth yma fel rhan o arolwg cyfredol Meic. Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

    Awgrymir canlyniadau’r arolwg bod plant a phobl ifanc yn diffyg gwybodaeth i herio’r rhai sydd ddim yn parchu eu hawliau neu safbwyntiau. Mae hwn yn hawl sy’n cael ei amlinellu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

    Heddiw, mae Meic yn cyhoeddi ei ymgyrch newydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth hawliau ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru.

    Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ar 6 Gorffennaf 2017 gyda ffilm ryngweithiol ar arddull gêm fideo yn cael ei ryddhau. Bydd y fideo yn rhoi grym i blant a phobl ifanc i gael mynediad i wybodaeth gywir am eu hawliau. Bydd hefyd yn rhoi’r hyder iddynt i ddefnyddio’r rhain yn eu bywydau.

    Rhoddir cefnogaeth a gwybodaeth gyfreithiol ar gyfer y fideo gan yr Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc. Dywedodd:

    “Mae ymchwil yr Arsyllfa yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn ymwybodol am gyfreithiau sydd yn berthnasol i’w bywydau a’u profiadau bob dydd, ac mae yna fwlch enfawr yn hygyrchedd a chywirdeb gwybodaeth gyfreithiol. Rydym yn falch iawn o gael helpu Meic i fwrw ati i lenwi’r bwlch yma, trwy gyfuno eu talent greadigol â’n harbenigedd cyfreithiol a hawliau dynol.”

    Dywedai Steph Hoffman, Pennaeth Meic:

    “Mae’r arolwg yma yn dangos nad yw’r mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael y sylw sydd ei angen. Mae cyfrifoldeb ar bawb i wneud mwy i amddiffyn a mwyhau eu llais ac i ymateb i’r hyn sydd yn eu poeni. Mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi’r offer cywir iddyn nhw i ddeall eu hawl i wrandawiad a chael eu cymryd o ddifrif. Bydd y fideo yma yn eu cyfarparu gyda gwybodaeth am eu hawliau. Bydd hyn, yn ei dro, yn rhoi’r grym iddynt i stopio, newid neu wella eu sefyllfa.”

    Dilynwch yr ymgyrch fideo o 6 Gorffennaf 2017 ar dudalen Facebook Meic (@meic.cymru), Twitter (@meiccymru), ac Instagram (@meic.cymru).

    Gall plant a phobl ifanc yng Nghymru, hyd at 25 oed, gysylltu â Meic o 8am – hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn trwy neges sydyn, neges testun, ar y ffôn neu e-bost.

  3. O’r ystafell ddosbarth i ystafell y bwrdd, sut i ganfod a thaclo bwlio yn y gweithlu    

    by Marco Gil-Cervantes | 8th Maw 2017

    “Mae’n hawdd meddwl mai mewn ysgolion y mae bwlio fwyaf cyffredin ond y gwir plaen yw bod llawer o ferched ifanc yn cael eu bwlio lle maen nhw’n gweithio hefyd.  Y cwestiwn yw, sut allwn ni ganfod bwlio yn y gwaith a beth allwn ni ei wneud i helpu? Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched mae’r flogwraig Katy Dodds, Little But Fierce, yn egluro pam y dylai bwlio fod yn fusnes i bawb, yn yr ysgol, yn y gwaith neu ble bynnag.   

    Gall cael eich bwlio eich gwneud yn ofnus, yn unig ac yn bryderus.  Yn yr ysgol y dysgais i hynny.  Cael fy mwlio’n emosiynol ac ar lafar oeddwn i, nid yn gorfforol, ond dim ots.   Mae pob math o fwlio’n cael yr un effaith ac yn gallu difetha pobl am weddill eu hoes.

    Felly, beth sy’n digwydd os nad yw’r bwlio’n stopio yn yr ysgol ond yn ail godi’n ddiweddarach? Wel, y gwir yw fod pobl yn cael eu bwlio mewn cymaint o lefydd y dyddiau yma, gartref, yng nghartref cyfaill, yn eich neuadd brifysgol neu hyd yn oed yn y gwaith, lle byddai rhywun yn meddwl y byddai bwlio wedi hen gilio i’r gorffennol.

    Katy Dodds – Blogwraig Little But Fierce

    Gall bwlio yn y gwaith fod yn sawl math, pob un yr un mor anghynnes â’r math o fwlio sy’n digwydd mewn ysgolion ac sy’n gadael rhywun yn teimlo fel cadach llestri.  Mewn lle gwaith prysur, mae’n hawdd i’r gwahaniaeth rhwng disgwyliadau uchel a ffordd ormesol o reoli, sydd mewn gwirionedd yn fath o fwlio, gael ei ddisytyru.  Os byddwch chi’n teimlo fod eich rheolwr yn eich trin yn eithriadol o gas, cofiwch nad yw hyn yn ffordd briodol o reoli.  Mae’n amlwg yn fath o fwlio yn y swyddfa ond gall cydweithwyr fwlio hefyd.

    Mae pawb yn gwneud camgymeriadau yn y gwaith, dyna beth sy’n digwydd.  Ond gall sylwadau annifyr a dilornus cydweithwyr wrth bigo ar gamgymeriad ambell un greithio’r unigolyn hwnnw am yn hir iawn.   Os yw hyn yn digwydd drosodd a throsodd, mae’n gallu codi cymaint o ofn ar rai pobl nes eu bod bron â methu cyrraedd y gwaith bob dydd, yn union fel mae’n gas gan rai plant gerdded i mewn i’r ystafell ddosbarth.  Ni ddylai unrhyw un fod ofn mynd i’w gwaith, yn enwedig os ydyn nhw’n ei fwynhau, ac ni ddylai neb wneud i chi deimlo nad ydych chi’n perthyn neu nad ydych chi’n ddigon da.

    Does dim llawer o wahaniaeth rhwng arwyddion bwlio yn yr ysgol ac arwyddion bwlio yn y gwaith.  Meddyliwch am hyn: a yw cydweithiwr yn dilorni rhywyn yn agored yn y gwaith fel bod pawb, gan gynnwys y person hwnnw, yn clywed?  Oes rhywun yn y gwaith yn cael ei adael allan o bob dim ar bwrpas? Ydych chi wedi sylwi fod cydweithiwr yn edrych ofidus neu’n treulio ei amser cinio ei hunan? Mae’r arwyddion yn debyg yn yr ysgol ac yn y gwaith.

    Er bod dynion a merched yn cael eu bwlio, a bod bwlio dynion yr un mor atgas â bwlio merched, mae yna rai mathau o fwlio a allai effeithio mwy ar ferched ifanc.  Mae ymddangosiad a hunan barch yr un mor bwysig yn yr ysgol ag yn y gwaith.  Gall poeni am sut y maen nhw’n edrych a brwydro yn erbyn pwysau cymdeithas heddiw, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, adael llawer o enethod a merched ifanc yn teimlo fel peidio â chodi o’r gwely yn y bore i wynebu’r diwrnod.

    Felly, sut mae helpu’r rhai sy’n cael eu bwlio yn yr ysgol ac yn y gwaith? Yn union fel y byddai rhywun yn dweud wrth athro yn yr ysgol, ewch ar eich union at eich rheolwr llinell neu aelod o Adnoddau Dynol i riportio’r bwlio rydych chi’n credu sy’n digwydd.  Fel prawf, ac i wneud yn siŵr na fyddwch chi’n angofio dim am y digwyddiadau rydych chi wedi’u gweld neu eu profi, gallech gadw dyddiadur o’r hyn sy’n digwydd.  Bydd eich rheolwr yn teimo’n hyderus fod gennych chi gofnod dibynadwy o’r hyn sydd wedi digwydd – fel y byddai athro ar ôl cael cofnod tebyg.  I bobl sy’n cael eu bwlio, mae distawrwydd ffrindiau a chydweithwyr yn gallu bod yn waeth na’r bwlio eu hunan.

    Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, fe fyddwn i’n annog genethod a merched i gyhoeddi’n groch os ydyn nhw, neu’n meddwl fod rhywun arall, yn cael eu bwlio.  Nid yw bwlio erioed wedi bod yn rhywbeth sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn unig.  Fe ddylen ni i gyd ei herio ym mhobman a gwneud yn siwr ei fod yn fusnes i bawb.  I gyd-fynd â thema Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn 2017, #BeBoldForChange a chofiwch herio bwlio.

    Os ydych yn poeni fod rhywun yn cael ei fwlio neu os hoffech chi siarad yn gyfrinachol ynghylch eich profiadau eich hunan, ffoniwch Meic ar 08088 023 456. ”

    Mae Katy’n siarad fel rhan o ymgyrch barhaus ymwybyddiaeth gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru.  

  4. Ydych chi eisiau bod mor effeithlon â NASA?

    by Marco Gil-Cervantes | 6th Rhag 2016

    Ydych chi eisiau bod mor effeithlon â NASA? Mor sydyn ac ymatebol â Buzzfeed?

    Mor fawr ag Airbnb?

    Yna byddwch yn ‘Slack’!

    Mae yna lwyth o apiau gellir eu defnyddio i wneud pethau a chyfathrebu gyda grwpiau o bobl. Ond mae yna un sydd yn sefyll allan yn fwy na’r lleill, sef y platfform cydweithio gelwir yn Slack. Mae NASA, Airbnb a Buzzfeed yn canu clodydd y rhaglen ac yn ei ddefnyddio i wneud pethau diddorol iawn.

    Mae Slack yn declyn i weithio ar brosiectau gyda phobl eraill. Efallai bod hynny’n swnio’n debyg iawn i e-bost neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook neu Whatsapp.

    Ond rhywsut, mae Slack yn well, yn cythruddo llai ac yn haws i’w ddefnyddio.

    slack_cmyk-1219x349

    Os ydych chi eisiau gweithio ar brosiect gyda ffrind neu grŵp mawr yna mae posib creu ‘sianeli’ i gael sgyrsiau a llwytho neu gysylltu i ddogfennau pwysig neu wefannau eraill. Ond beth sy’n gwneud Slack yn wych ydy’r gallu i edrych yn ôl a chwilio drwy hen sgyrsiau a chadw trac ar sut mae’r prosiect yn datblygu ar y cyfan. Os yw aelod newydd yn ymuno â’r tîm, mae hyn yn ffordd ddefnyddiol iawn iddynt weld sut mae’r sgwrs wedi datblygu ac i gael mynediad i’r holl wybodaeth sydd ei angen i gyd mewn un lle. Mae hyn yn gwneud Slack yn hygyrch iawn ac yn groesawus iawn i bobl newydd.

    Mae Slack hefyd yn hoff o emojis a tra’i fod yn hwyl mae hefyd yn caniatáu i chi leihau faint o e-byst sydd yn cael eu gyrru a’u derbyn er mwyn cyfleu syniad i berson arall. Mae pobl sydd yn defnyddio Slack wrth eu boddau gydag ef gan ei fod yn lleihau’r e-byst sy’n cael ei yrru ac yn helpu pobl i lwyddo cyrraedd y sefyllfa berffaith gelwir yn ‘e-bost sero’.

    Mae Slack yn rhad ac am ddim, mae yna gynlluniau gellir talu amdanynt ond dim ond sefydliadau mawr fydd angen hyn yn gyffredinol. Os ydych chi’n cychwyn tîm Slack eich hun ac yn chwilio am gydweithwyr i ymuno yna rhowch wybod i ni a gallem dynnu sylw at eich grwpiau.

    Dolenni tebyg:

    Trawsffurfio eich cyfathrebiad

    Sut i greu cynnwys cost isel, effaith uchel

  5. Wythnos Gwrth-Fwlio 2016 – ProMo-Cymru Yn Nodi’r Dyddiad

    by Marco Gil-Cervantes | 9th Tach 2016

    Bydd dau o brosiectau ProMo-Cymru, Meic a TheSprout, yn cyflwyno ymgyrchoedd gwrth-fwlio eleni ar gyfer Wythnos Gwrth-Fwlio 2016 (14eg – 18fed Tachwedd).

    Sut fedrwch chi wneud gwahaniaeth?

    Mae’n hawdd iawn i chi ein cefnogi eleni: rhannwch ein cynnwys! Dyma ble gellir dilyn ein hymgyrchoedd:

    screen-shot-2016-11-08-at-09-30-55

    Meic

    Bydd porthiant Facebook a Twitter Meic yn llawn delweddau Gavyn Wrench — cynhyrchwyd mewn cydweithrediad â SchoolBeat, Plant yng Nghymru a Llywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys dyfynodau yn dilyn ymgynghoriadau gyda phlant a phobl ifanc.

    Cadwch lygaid allan am: vox pops gyda phlant a phobl ifanc yn rhannu eu barn am fwlio, a chystadleuaeth i ennill llun wedi’i arwyddo gan Gavyn Wrench ei hun!

    Bydd yna erthyglau nodwedd hefyd gydag awgrymiadau i chi sydd efallai yn mynd drwy gyfnod anodd oherwydd bwlio.

    The Sprout

    screen-shot-2016-11-08-at-09-17-14

    Y mis Tachwedd hwn, mae TheSprout yn cynnig credydau amser i bobl ifanc (11-25) sydd yn cyflwyno unrhyw erthyglau am fwlio. Byddant hefyd yn helpu i gyflwyno’r gystadleuaeth delwedd Meic — felly rhannwch y neges gydag unrhyw darpar artistiaid neu ysgrifenwyr! Gallwch ddilyn yr ymgyrch ar Facebook, Twitter, ac ar TheSprout.co.uk.

  6. 4 Hashnod Firaol Llwyddiannus Yr Haf

    by Marco Gil-Cervantes | 23rd Awst 2016

    Mae Haf 2016 wedi bod yn flwyddyn enfawr ar gyfer digwyddiadau mawr. Gyda’r Ewros a Gemau Olympaidd Rio a llawer mwy i ddod, beth sydd wedi gwneud i’r digwyddiadau yma aros yn atgof y Genhedlaeth Sgrin?Mae hashnodau (y symbol bach yma —> #) wedi bod yn cynyddu yn ei boblogrwydd ers lansiad Twitter yn 2006. Defnyddir hashnodau i dynnu postiadau cymdeithasol at ei gilydd dan bwnc penodol. Gall pobl ledled y byd ymuno yn y sgwrs, wrth ddefnyddio’r symbol defnyddiol yma.

    Dyma bedwar hashnod oedd wedi creu argraff arnom ni:

    1. #GorauChwaraeCydChwarae // #TogetherStronger

    Screen Shot 2016-08-22 at 16.00.00

    Hashnod Cymdeithas Pêl Droed Cymru, creodd argraff fawr yn ystod ymgyrch Cymru yn gemau Ewro UEFA 2016 yn gynharach yn yr haf. Cafodd ei ddefnyddio wedyn gan Hilary Clinton yn ystod araith ar ei hymgyrch, llwyddodd i adael marc ar Twitter gyda dros 1.327 miliwn o wylwyr yn gwylio gem ddiwethaf Cymru yn y gystadleuaeth yn erbyn Portiwgal, lle collwyd 2-0.

    Y rheswm roeddem yn hoff ohono: Roedd gallu cyson Cymru i weithio gyda’i gilydd fel tîm yn rheswm am lwyddiant anferthol Cymru yn yr Ewros. Roedd hashnod oedd yn atgyfnerthu’r ethos yn sicr o fod yn llwyddiant.

    2.  #Steddfod16

    Screen Shot 2016-08-22 at 13.58.10

    Y peth hyfryd am y hashnod bach yma ydy ei fod wedi denu pobl o bob man. Roedd Côr Hŷn Glynllyw yn gallu hysbysebu sesiwn ymarfer fyrfyfyr ar un o’r stondinau wrth fanteisio ar y tag yma sydd wedi’i sefydlu eisoes.

    Roedd hefyd yn casglu lluniau digwyddiad at ei gilydd, yn ei wneud yn llawer haws i’w darganfod yn hwyrach ymlaen:

    Screen Shot 2016-08-22 at 14.01.42

    Y rheswm roeddem yn hoff ohono: Mae cael hashnod Cymraeg yn unig yn codi proffil yr iaith, ac yn gwneud i’r ŵyl sefyll allan fel digwyddiad blaengar. Mae hefyd yn ffordd anffurfiol o ddweud “Eisteddfod”, sydd yn helpu ei atgyfnerthu gyda phobl ifanc, sydd yn gwarantu dyfodol y digwyddiad.

    3. #Rio2016

    Mae’r hashnod yma wedi dominyddu’r pythefnos diwethaf o’r newyddion, wrth ddilyn digwyddiadau’r Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro. Gyda’r Gemau Paralympaidd ar y gorwel, mae’n sicr o gael atgyfodiad (ynghyd â hashnod eu hunain, #Superhuman).

    Screen Shot 2016-08-22 at 17.12.18

    Y rheswm roeddem yn hoff ohono: Mae ei apêl amlieithog yn ei wneud yn llwyddiant mawr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook.

    4. #PrideCymru

    Gwelwyd dros 10,000 o ymwelwyr yng Nghae Cooper’s yng ngŵyl Pride Cymru yng Nghaerdydd eleni.

    pride2-export

    Y rheswm roeddem yn hoff ohono: Mae digwyddiadau unigryw gyda hashnod un-pwrpas yn gwarantu ffordd i’ch ymwelwyr fod yn rhan o’r sgwrs, cael diweddariadau yn syth a gadael i eraill wybod ble maent.

    (Eisiau gweld lluniau ni o Pride? Cymerwch olwg yma.)

    Delweddau oddi ar Twitter


    Eisiau creu argraff ar-lein gyda’ch ymgyrch? Cychwynnwch sgwrs gyda ni.

    Erthyglau eraill:

     

    How To Make Friends And De-Alienate People: 3 Must-Know Things We Learned From The Eisteddfod

    ProMo-Cymru @ WMC’s Festival of Voice

     

  7. Sut i Wneud Ffrindiau a Dat-Ddieithrio Pobl: 3 Gwers Hanfodol Dysgwyd yn yr Eisteddfod

    by Marco Gil-Cervantes | 11th Awst 2016

    Mae gan ProMo-Cymru ddau brosiect cwbl dwyieithog: PwyntTeulu Cymru a Meic, yn anelu at deuluoedd a rhai dan 26 oed yn ôl eu trefn. Gyda’r gorau o’r haf (a’r tywydd gobeithio) i ddod, rydym wedi gwisgo ein hesgidiau glaw gorau a mynd allan i gyfarfod â rhai o’r hanner miliwn o deuluoedd yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg!

    Felly pa wersi dysgwyd o’r ŵyl yma oedd yn Y Fenni am wythnos? Llawer iawn, ond dyma 3 peth:

    image

    1. 1a) Sut i gychwyn sgwrs â rhywun wrth y bwrdd picnic, ac 1b) sut i gael llwyddiant nwyddau

    Mae’n amser cinio yn yr Eisteddfod. Mae yna fyrddau picnic yn llawn teuluoedd bob ochr. Rydych chi wedi bwyta eich cinio, wedi crwydro, ond mae’n amser mynd yn ôl i’r gwaith. Ond mae’r bobl rydych chi eisiau siarad â nhw yn bwyta.

    Dyma ble mae’n talu i gael nwyddau defnyddiol wedi’i frandio. Fel mae’n digwydd, nid yw’r un rhiant yn mynd i wrthod weips gwlyb am ddim yn ystod amser cinio. [Mae wedi’i brofi yn wyddonol bod plentyn bach yn gallu llwyddo cael hufen ia dros dri o bobl mewn llai nag 12 eiliad.]

    Roeddem wedi cael enw da i ni’n hunain fel gwasanaeth cynorthwyol; erbyn diwedd yr wythnos, roedd pobl yn gofyn am ein weips gwlyb, yn ogystal â gofyn pwy oeddem ni a beth oeddem ni’n ei wneud.

    Gwnewch eich brand yn ddefnyddiol i bobl, a bydd eich cynulleidfa yn dod i chwilio amdanoch chi.

     

    13891973_1058591267565928_5149689411405069096_n

    2. Mae pawb yn gwirioni gwisgo i fyny (hyd yn oed y rhai sydd yn dweud eu bod yn casáu).

    Yn y mwyafrif o ddigwyddiadau rydym yn ei fynychu, rydym yn ceisio cael bwth lluniau yno hefyd. Tra bod hyn yn ymddangos fel cynllun i gael tynnu lluniau gwirion o’n hunain yn gwisgo pen ceffyl, mae’n declyn ymrwymiad anhygoel mewn gwirionedd.

    Gallem arddangos ein sgiliau camera ffansi, ond mae’n grêt i bawb: y gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael llond bol o’r tywydd diflas, neu’r rhieni gyda phlant sydd angen rhywbeth i dynnu sylw, ac rydym yn cael amser i siarad â nhw am ein gwasanaeth.

    Y wers bwysicaf dysgom ydy bod hyn yn gyrru traffig i’n Flickr, Facebook ac Instagram, ac mae’r gynulleidfa yn gallu cysylltu yn dda gyda’ch neges.

    Screen Shot 2016-08-24 at 12.15.15

    3. Y cymryd rhan sy’n cyfrif.

    Y peth pwysicaf dysgwyd o #Steddfod16 ydy cymaint mwy o ymrwymo sy’n gallu digwydd os ydych chi’n rhoi tro ar bethau. Bod hyn yn cerdded o gwmpas a gofyn i bobl am y cystadlaethau, neu wisgo mwgwd gwirion i dynnu sylw i chi’ch hun — y peth mwyaf a gorau gall unrhyw un ei wneud ydy i gymryd rhan. Ydych chi’n meddwl bod yr ŵyl yn gadeiriau, derwyddon a mwd yn unig? Ewch i’r Eisteddfod a dysgu gan bobl. Angen ymarfer ychydig ar eich Cymraeg? Darganfyddwch sut i ddweud ychydig o frawddegau syml.

    Ni ddylid anwybyddu pa mor bwysig ydy dynoli eich brand. Beth sy’n fwy dynol nac rhoi tro ar bethau?


    Eisiau dysgu mwy am y prosiectau yma? Ymwelwch â PwyntTeulu Cymru a Meic yma.

    Diddordeb mewn cychwyn rhywbeth newydd gyda ni? Dechreuwch sgwrs nawr.

    Ein blogiau eraill:

    ProMo-Cymru @ Gŵyl y Llais Canolfan y Mileniwm

    Gwersi o Ewrop: Gwybodaeth Ieuenctid a Chyfathrebu Digidol