Sut i Wneud Ffrindiau a Dat-Ddieithrio Pobl: 3 Gwers Hanfodol Dysgwyd yn yr Eisteddfod

by Marco Gil-Cervantes | 11th Awst 2016

Mae gan ProMo-Cymru ddau brosiect cwbl dwyieithog: PwyntTeulu Cymru a Meic, yn anelu at deuluoedd a rhai dan 26 oed yn ôl eu trefn. Gyda’r gorau o’r haf (a’r tywydd gobeithio) i ddod, rydym wedi gwisgo ein hesgidiau glaw gorau a mynd allan i gyfarfod â rhai o’r hanner miliwn o deuluoedd yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg!

Felly pa wersi dysgwyd o’r ŵyl yma oedd yn Y Fenni am wythnos? Llawer iawn, ond dyma 3 peth:

image

1. 1a) Sut i gychwyn sgwrs â rhywun wrth y bwrdd picnic, ac 1b) sut i gael llwyddiant nwyddau

Mae’n amser cinio yn yr Eisteddfod. Mae yna fyrddau picnic yn llawn teuluoedd bob ochr. Rydych chi wedi bwyta eich cinio, wedi crwydro, ond mae’n amser mynd yn ôl i’r gwaith. Ond mae’r bobl rydych chi eisiau siarad â nhw yn bwyta.

Dyma ble mae’n talu i gael nwyddau defnyddiol wedi’i frandio. Fel mae’n digwydd, nid yw’r un rhiant yn mynd i wrthod weips gwlyb am ddim yn ystod amser cinio. [Mae wedi’i brofi yn wyddonol bod plentyn bach yn gallu llwyddo cael hufen ia dros dri o bobl mewn llai nag 12 eiliad.]

Roeddem wedi cael enw da i ni’n hunain fel gwasanaeth cynorthwyol; erbyn diwedd yr wythnos, roedd pobl yn gofyn am ein weips gwlyb, yn ogystal â gofyn pwy oeddem ni a beth oeddem ni’n ei wneud.

Gwnewch eich brand yn ddefnyddiol i bobl, a bydd eich cynulleidfa yn dod i chwilio amdanoch chi.

 

13891973_1058591267565928_5149689411405069096_n

2. Mae pawb yn gwirioni gwisgo i fyny (hyd yn oed y rhai sydd yn dweud eu bod yn casáu).

Yn y mwyafrif o ddigwyddiadau rydym yn ei fynychu, rydym yn ceisio cael bwth lluniau yno hefyd. Tra bod hyn yn ymddangos fel cynllun i gael tynnu lluniau gwirion o’n hunain yn gwisgo pen ceffyl, mae’n declyn ymrwymiad anhygoel mewn gwirionedd.

Gallem arddangos ein sgiliau camera ffansi, ond mae’n grêt i bawb: y gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael llond bol o’r tywydd diflas, neu’r rhieni gyda phlant sydd angen rhywbeth i dynnu sylw, ac rydym yn cael amser i siarad â nhw am ein gwasanaeth.

Y wers bwysicaf dysgom ydy bod hyn yn gyrru traffig i’n Flickr, Facebook ac Instagram, ac mae’r gynulleidfa yn gallu cysylltu yn dda gyda’ch neges.

Screen Shot 2016-08-24 at 12.15.15

3. Y cymryd rhan sy’n cyfrif.

Y peth pwysicaf dysgwyd o #Steddfod16 ydy cymaint mwy o ymrwymo sy’n gallu digwydd os ydych chi’n rhoi tro ar bethau. Bod hyn yn cerdded o gwmpas a gofyn i bobl am y cystadlaethau, neu wisgo mwgwd gwirion i dynnu sylw i chi’ch hun — y peth mwyaf a gorau gall unrhyw un ei wneud ydy i gymryd rhan. Ydych chi’n meddwl bod yr ŵyl yn gadeiriau, derwyddon a mwd yn unig? Ewch i’r Eisteddfod a dysgu gan bobl. Angen ymarfer ychydig ar eich Cymraeg? Darganfyddwch sut i ddweud ychydig o frawddegau syml.

Ni ddylid anwybyddu pa mor bwysig ydy dynoli eich brand. Beth sy’n fwy dynol nac rhoi tro ar bethau?


Eisiau dysgu mwy am y prosiectau yma? Ymwelwch â PwyntTeulu Cymru a Meic yma.

Diddordeb mewn cychwyn rhywbeth newydd gyda ni? Dechreuwch sgwrs nawr.

Ein blogiau eraill:

ProMo-Cymru @ WMC’s Festival of Voice

Lessons From Europe: Digital Youth Information & Communication