Gweithio gyda phobl ifanc ar-lein

Mae pawb yn ymwybodol bod y rhyngrwyd yn hanfodol i gysylltu â phobl ifanc, yn aml yr her ydy sut i wneud hyn yn ddiogel, yn broffesiynol ac yn effeithiol.

Trosolwg

Os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc mae angen i chi ddeall a chofleidio cyfathrebu digidol. Mae’n debyg eich bod yn ymwybodol o hyn, ond gyda diffyg amser, ffobia technoleg, pryderon diogelu a phenawdau am gamsyniadau cyfryngau cymdeithasol, gall wneud pethau’n anodd.

Rydym yn bwriadu gwneud pethau’n glir pan ddaw at gyfryngau cymdeithasol, adeiladu ar eich sgiliau a gwneud i gyfathrebu digidol weithio i chi. Byddem yn helpu chi i arbed amser, cynyddu diogelwch a rhoi hwb i’ch allbwn wrth reoli’r peryglon. Byddem yn gweithio â chi i ddatblygu strategaeth cyfathrebu ymarferol: yn canolbwyntio ar y teclynnau sydd yn gweddu eich anghenion a chysylltu chi a’ch cynulleidfa targed wrth ddarparu hyfforddiant ar yr un pryd.

Ein Dull

Ni weithith os nad yw’n cysylltu. Rydym yn sicrhau bod y pethau rydym yn eu gwneud yn rhyngweithiol, yn hwyl ac yn fuddiol i gyfranogwyr.

Diogelu Ar-lein a Pholisi

Ein harbenigedd/ffocws yw ein profiad yn trosi’r polisïau trydydd sector a gwaith ieuenctid i weithio o fewn y cylchoedd digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Cysylltu ag Ieuenctid

Mae presenoldeb ar-lein yn un peth, ond cofleidio cyfryngau cymdeithasol sydd yn allweddol os ydych chi am gysylltu’n effeithiol gyda phobl ifanc. Bod hyn yn bynciau sy’n trendio, rhyfeli fflam (flame wars) neu memes, rydym yn bresennol ymhle mae pethau’n digwydd.

Ymgynghoriad Ieuenctid

Mae pobl ifanc heddiw wedi’u cyfarparu yn well i rannu barn, yn fwy nag unrhyw genhedlaeth cynt. Yn aml, maent yn lleisio’u barn arnoch chi yn barod – gallech chi ddarganfod beth maen nhw’n ei ddweud? Yn bwysicach fyth: ydych chi’n gwybod sut i ymateb?

Marchnata ac Ymgyrchoedd Cymdeithasol

Mae gan gyfryngau cymdeithasol y potensial i gyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol. Gyda’r strategaeth a’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol cywir gallech chi gysylltu yn effeithiol ar-lein â phobl ifanc a chynnal ymgyrchoedd llwyddiannus.

Deunydd cyfeillgar i ieuenctid

Rydym wedi creu a chymedroli deunydd i sicrhau eu bod mewn iaith, arddull a fformat addas i’r gynulleidfa. Rydym yn gweithio gyda thestun, ffilm, lluniau a chelf yn ogystal â chael profiad yn creu cynnwys cyfeillgar i ieuenctid mewn BSL.

Cynhyrchiad Cyfryngol

Mae gennym brofiad gwych o weithio gyda phobl ifanc gyda phrosiectau aml-gyfryngol. Yn y broses maent yn ennill amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau. Mae ein hyfforddwyr wedi’u hachredu mewn PTTLS ac yn gallu cynnig hyfforddiant achrededig.

Hyfforddiant Sgiliau

Mae’r sesiynau rydym yn ei gynnig yn gallu cael eu haddasu i weddu holl anghenion dysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau. Mae ein hathrawon cymwysedig yn cyflwyno amrywiaeth o bynciau gyda phopeth o Ddrymio Affricanaidd i gymwysterau UAC mewn Ffotograffiaeth, Ysgrifennu Creadigol a llawer mwy.

“A heddiw, ar ddiwrnod diwethaf fy mhrofiad gwaith (wyneb trist), dwi’n gorfod eistedd mewn cyfarfod am sut mae’r wahanol brosiectau yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. CYFRYNGAU CYMDEITHASOL! Roedd y cyfarfod i gyd yn ymwneud â defnyddio Facebook a Twitter a Tumblr a phopeth. Roeddwn i’n meddwl bod hyn yn anhygoel, sawl cwmni sy’n cael cyfarfod am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn unig? Syfrdanol! – Swarnim, Torfaen