Gwybodaeth Ieuenctid Digidol

Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hysbysu a’u hymgysylltu ac yn teimlo’n gysylltiedig ac wedi’u clywed.

Rydym yn credu y dylai pobl ifanc gael mynediad i wybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth sydd yn hawdd i’w ddarganfod, yn syml i’w ddeall ac mewn ffurf gellir ei ddefnyddio.

Two young people in a music studio

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn hysbysu ein gwaith, ac rydym wedi bod yn cyflawni prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol ers dros 20 mlynedd.

Rydym yn cynnal gwasanaethau digidol ar gyfer pobl ifanc ac yn cefnogi sefydliadau eraill i hysbysu pobl ifanc drwy ddigidol.

Gall ProMo-Cymru eich cefnogi chi i roi llais ac anghenion pobl ifanc wrth galon eich prosiectau neu wasanaethau. Rydym yn arbenigo yn gwneud hyn gan ddefnyddio creadigrwydd a digidol.

Bod hynny’n creu app, gwefan, ffilm neu ddatblygu sgiliau eich staff. Gyda’n gilydd gallem gynnal sgyrsiau gyda phobl ifanc.

Am wybodaeth bellach ar Wybodaeth Ieuenctid Digidol cysylltwch ag arielle@promo.cymru

Prosiectau yn cynnwys