Mae ProMo-Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Ewrop i hyfforddi gweithwyr ieuenctid mewn sut i ddefnyddio dulliau Cynllunio Gwasanaeth i gyd-gynllunio gwaith ieuenctid digidol effeithiol.

Manylion y Prosiect

Bu ProMo-Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â naw o sefydliadau ieuenctid arweiniol ar draws Ewrop i greu cwrs e-ddysgu gyda’r bwriad o gyflwyno’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth i waith ieuenctid. Bûm yn gweithio ar y cyd i gyfuno Cynllunio Gwasanaeth gyda gwaith ieuenctid cyfranogol. Yn datblygu ac yn cyd-gynllunio gwasanaeth trwy broses pedwar cam sydd yn sicrhau bod yr hyn sydd yn cael ei adeiladu yn hygyrch, yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i bobl ifanc.

Mae’r adnoddau datblygwyd yn cynnwys cwrs e-ddysgu, pecyn cymorth ac adroddiad darganfyddiad i ymddygiad pobl ifanc wrth iddynt fynd i chwilio am wybodaeth.

Bu ProMo-Cymru yn arwain ar greu’r Pecyn Cymorth DesYIgn a fideos hyfforddi, oedd yn amlygu cynnwys y cwrs e-ddysgu, wedi’i gynllunio gan Koordinaatti.

Rydym wedi profi ac addasu’r cwrs a’r deunyddiau gyda gweithwyr ieuenctid ac mae wedi cael ei gyfieithu i bedwar iaith.

Defnyddiom ein harbenigedd mewn animeiddiad i greu cynnwys syml a gwybodus mewn pedwar iaith wahanol, gan roi eglurhad o Gynllunio Gwasanaeth o fewn cyd-destun gwaith ieuenctid.

Fideo DesYIgn wedi ei gynhyrchu gan ProMo-Cymru yn Ffinneg

Ariannwyd y prosiect trwy gyllid Erasmus+ wedi ei arwain gan ERYICA (Lwcsembwrg), Youth Work Ireland (Iwerddon), Koordinaatti (Y Ffindir), Agence Nationale pour l’Information des Jeunes (Lwcsembwrg), Dirección General de Juventud y Deportes de Madrid (Sbaen), ProMo-Cymru (Cymru, DU), Aġenzija Żgħażagħ (Malta), Institut Valencià de la Joventut (Sbaen) a Phrifysgol Åbo Akademi University (Y Ffindir).

Beth Nesaf?

Mae’r cwrs DesYIgn yn cael ei gyflwyno ledled Ewrop am ddim i holl weithwyr ieuenctid. Mae’r profi cychwynnol yn dangos bod gweithwyr ieuenctid yn mwynhau’r cwrs a bod yr adnoddau yn ddefnyddiol. Cysylltwch â Arielle Tye am wybodaeth bellach ar arielle@promo.cymru

Lawr lwythwch becyn cymorth DesYIgn

Gweithio gyda ProMo-Cymru

Mae ProMo-Cymru yn cefnogi ac yn gwella sgiliau sefydliadau i gynllunio a datblygu gwasanaethau gyda, ac ar ran pobl, bod hynny ar-lein neu all-lein.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda ni i gyd-gynllunio gwasanaethau gwell, cysylltwch ag Arielle ar arielle@promo.cymru