Gwasanaethau Llinell Gymorth

Gyda’r prosiect Meic, mae ProMo-Cymru wedi cyflwyno llinell gymorth eiriolaeth gyffredinol yn llwyddiannus – y cyntaf o’i fath yn y DU.

Trosolwg

Sefydlodd ProMo-Cymru llinell gymorth mynediad agored, yn defnyddio rhith ganolfan galw pwrpasol oedd yn datblygu technolegau linell gymorth gan gynnwys llinell ffôn dwyieithog a chyfleusterau neges testun, negeseuo gwib ac e-bost.

Ein Dull

Nid yw llinellau cymorth bellach wedi’u cyfyngu i un ddesg, un swyddfa neu un adeilad. Mae ein datblygiadau cynt wedi cynnwys gwasanaeth a meddalwedd sydd yn caniatáu staff llinell gymorth i fod yn gyraeddadwy yn syth yn y swyddfa ac o bell, 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn. Mae’r dull arloesol yma wedi caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu trwy ddulliau sy’n gyfarwydd ac yn gyfleus iddyn nhw, gan sicrhau eu bod yn gyffyrddus ac mae’n galonogol ein bod yn gweithio ar yr un lefel â nhw.

“Roedd fel tecstio ffrind a ddim yn teimlo fel bod i’n cysylltu llinell gymorth.”

“Dwi wedi trio sawl gwefan am help… ac mae Meic wedi helpu llawer mwy.”