Rydym yn hoff o sialens yma yn ProMo-Cymru, yn enwedig un sydd yn canolbwyntio ar greu gwybodaeth hygyrch i drosglwyddo gwell canlyniadau iechyd.

Daeth Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) atom gyda’r bwriad o wella eu gwasanaeth ‘Profi a Phostio‘ iechyd rhywiol newydd. Mae’r gwasanaeth yn caniatáu i bobl brofi gartref am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), postio’r sampl, a derbyn canlyniadau drwy neges testun neu alwad ffôn. Roedd yr ICC eisiau sicrhau bod gan bobl y wybodaeth sydd ei angen i gwblhau prawf yn llwyddiannus gartref. Fel rhan o’r broses, roedd rhaid i bobl ddefnyddio swab ac/neu gyflawni prawf smotyn gwaed sych. O ymchwil ICC, roedd pobl wedi dangos ffafriaeth tuag at gyfarwyddiadau fideo clir. Dyma rôl ProMo-Cymru.

Beth wnaethon ni

Roedd y broses o gymryd y prawf yn ymddangos fel un hawdd i weithwyr meddygol proffesiynol; ond roedd yn glir bod sawl cam ar goll yn y cyfarwyddiadau presennol ar bapur, ac roedd yn broses ddryslyd i bobl. Datblygwyd cyfres o gyfarwyddiadau a chanllawiau clir gyda ICC. Cymerwyd amser i ddeall y broses yn iawn, asesu pwyntiau ffaelu posib, a deall pa gyfeiriadau fideo a chlywedol oedd fwyaf effeithiol. Oherwydd natur sensitif y cynnwys, dewiswyd ffurf animeiddio gyda chymysgedd o sain a thestun i atgyfnerthu eglurder a hygyrchedd y wybodaeth gan fod deall y cyfarwyddiadau a derbyn sampl dilys yn hanfodol.

Cynhyrchodd ProMo-Cymru fideos cyfarwyddiadau animeiddiad ar gyfer swab rhefrol, o’r wain a’r gwddf a’r prawf smotyn gwaed sych. Cafodd dau fersiwn o bob fideo ei greu – yng Nghymraeg a Saesneg. Gan ein bod yn gweithio’n ddwyieithog, sicrhawyd bod ystyriaeth i’r iaith Gymraeg yn siapio dyluniad yr animeiddiad ac nid fel ôl-ystyriaeth.

Pam animeiddio?

magnifying glass

I gadw pethau’n syml, defnyddiwyd dull cam wrth gam i’r animeiddiad. Rhannwyd cyfarwyddiadau’r prawf i 6 rhan. Roedd pob rhan yn cynnwys labeli, gyda lliwiau gwahanol trwy’r fideo. Roedd hyn yn ei wneud yn haws i’r gynulleidfa i ail-wylio a grwpio gwybodaeth. I helpu pobl i ganolbwyntio ar y cyfarwyddiadau, defnyddiwyd iaith lafar oedd yn rhedeg yn naturiol a thôn llais brwdfrydig.

Ar ôl gwylio fideo, mae pobl yn tueddu cofio 95% o’r neges o gymharu â 10% wrth ddarllen testun. Mae’r fformat yn gweddu’n dda wrth egluro proses a threfn.

Gellir ail-wylio’r fideos a chael mynediad iddynt o unrhyw le, ar unrhyw amser ar gyfrifiadur, ffôn clyfar neu dabled.

Mae defnyddio fideo i drosglwyddo gwybodaeth yn buddio’r gwylwyr yn ogystal â darparwyr gwasanaeth, gan y gallai leihau’r tebygrwydd o gamgymeriad, rhoi hwb i foddhad defnyddiwr a chynyddu defnydd o’r gwasanaeth.

Mae cyfnod profi’r gwasanaeth ‘profi a phostio’ wedi cychwyn, ac rydym wedi derbyn adborth gwych am y fideos.

Os hoffech gymorth i greu gwybodaeth er mwyn creu gwasanaeth mwy hygyrch a hawdd i’w ddeall, yna cysylltwch â dayana@promo.cymru

Os hoffech fynediad i’r gwasanaeth ‘profi a phostio’, ymwelwch â gwefan Cymru Chwareus | Cyngor a Phrofion Heintiau STI