Mae TheSprout yn cynnal ymgyrchoedd rheolaidd mewn cydweithrediad â phobl ifanc, yn gweithio gyda nhw i greu cynnwys i’r we a chyfryngau cymdeithasol yn canolbwyntio ar thema benodol. Roedd #TiYnHaeddu yn ymgyrch perthnasau iach wedi’i greu gan fyfyrwyr ifanc mewn cydweithrediad â Chymorth i Ferched Caerdydd.

Yn cael ei ariannu gan Teuluoedd yn Gyntaf Caerdydd, mae ProMo-Cymru wedi bod yn gyfrifol am redeg theSprout ers dros 10 mlynedd fel platfform ar-lein ar gyfer gwybodaeth a mynegiant ieuenctid. Ei fwriad ydy gwneud gwybodaeth yn haws i’w gyrchu ar-lein i bobl ifanc Caerdydd. Fel platfform blogio mae’n gyfle hefyd i gael llais ar-lein. Lle i rannu gwybodaeth, ysgrifennu a chynhyrchu cynnwys yn greadigol a chael dolenni i dudalennau a gwasanaethau cynorthwyol.

Degawd wedyn ac mae’r Sprout wedi datblygu ac ehangu’r hyn sydd yn cael ei gynnig. Mae wedi dod yn llwyfan ymgyrchu i bobl ifanc, yn codi ymwybyddiaeth o wahanol faterion. Rydym yn cynnig gofod a chefnogaeth i grwpiau gwahanol i greu ymgyrchoedd eu hunain am y pethau sydd yn bwysig iddynt.

Baner #TiYnHaeddu theSprout

Yr Ymgyrch #TiYnHaeddu

Daeth 6 o bobl ifanc o golegau a phrifysgolion Caerdydd at ei gilydd i rannu profiadau personol o berthnasau drwg yn emosiynol. Roedd Cymorth i Ferched Caerdydd wedi cysylltu â’r Sprout gan eu bod yn cynllunio ymgyrch poster mewn neuaddau myfyrwyr. Cynlluniwyd yr ymgyrch o gwmpas y thema #TiYnHaeddu, gan atgoffa myfyrwyr am eu hawl i gael eu trin gyda pharch. Y teimlad oedd bod hwn yn gyfle cydweithio perffaith. Bu’r bobl ifanc yn gweithio i greu ymgyrch i gefnogi’r ymgyrch poster fydda’n digwydd yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn.

Nid oedd yn bosib cyfarfod wyneb yn wyneb oherwydd Covid. Roedd cyfyngiadau ar gyfarfod ac roedd yr holl fyfyrwyr yn dysgu o gartref yn hytrach nag yn eu llety myfyrwyr arferol. Cynhaliwyd cyfarfodydd ar-lein rheolaidd i feddwl am thema a chynllun cynnwys.

Penderfynwyd creu 12 darn o gynnwys ar gyfer ymgyrch pythefnos o hyd. Rhoddwyd hyfforddiant mewnol i’r bobl ifanc o olygu fideo, dylunio graffeg, brandio a defnyddio WordPress dros gyfnod o 12 wythnos. Bu’r bobl ifanc yn creu’r holl gynnwys. Edrychwyd y tu hwnt i berthnasau rhamantus traddodiadol, gan ystyried yr effaith roedd y sefyllfa clo wedi’i gael ar bobl. Trafodwyd materion sensitif pwysig gan gynnwys ‘gaslighting’, bwlio a chamdriniaeth ar sail parch. Cafodd delwedd brand ei greu ar gyfer yr ymgyrch hefyd.

Canlyniad

Er yr heriau cyflwynwyd gyda sesiynau rhithiol, arholiadau a chyfnod y Nadolig, roedd y bobl ifanc yn parhau i ddangos brwdfrydedd wrth greu’r ymgyrch. Roedd yr ymdrech anhygoel wedi cynhyrchu canlyniadau llwyddiannus iawn, gyda chynnwys cyfryngau cymdeithasol yn derbyn hyd at 123,000 o argraffau. Roedd dros 40,000 o bobl ifanc yng Nghaerdydd wedi gweld, rhyngweithio ac wedi dod yn ymwybodol o’r achos yma.

Mae’r holl gynnwys cafodd ei greu wedi’u rhestru yma. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda TheSprout neu yn galluogi pobl ifanc i gael llais, cysylltwch ag Andrew ar andrew@promo.cymru