Rydym wedi cael ein dewis gan Ofcom i ddarparu sgiliau llythrennedd cyfryngau ar-lein i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent.

Byddem yn cyfuno ein profiad helaeth mewn cynllunio gwasanaeth a chyd-gynllunio, ymchwil a gwaith ieuenctid, i gyflwyno ymyriadau llythrennedd cyfryngau ar-lein i bobl ifanc gyda phobl ifanc, fel rhan o raglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau Ofcom. Byddem yn cydweithio â BGC Cymru a Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent.

Poster Llythrennedd Cyfryngau i gymunedau lleol Ofcom

Yr hyn rydym yn gwneud

Wrth ddefnyddio’r fethodoleg cynllunio gwasanaeth, rydym yn casglu mewnwelediadau i ymddygiad, gwybodaeth, a phryderon ar-lein pobl ifanc, gan ddefnyddio sesiynau ar-lein ac wyneb i wyneb i adnabod unrhyw fylchau yn eu hanghenion llythrennedd cyfryngau.

I gyfarfod yr anghenion yma, gan ddefnyddio’r darganfyddiadau casglwyd, byddem yn cyd-gynllunio gweithgareddau a gweithdai addysgiadol gyda phobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.

Bydd pobl ifanc yn ein helpu i berffeithio a phrofi’r ymyriadau yma, i sicrhau eu bod yn ffitio gyda’r canlyniadau llythrennedd cyfryngau dymunol ac yn gweddu’r gynulleidfa targed.

Bydd gwerthuso ac iteru parhaol yn gwella’r ymyriadau yma.

Yn olaf, bydd y gweithgareddau a gweithdai yma sydd wedi’u mireinio, yn cael eu cynnal ledled Blaenau Gwent i ddarparu cefnogaeth llythrennedd cyfryngau ar-lein i bobl ifanc. Bydd ProMo yn dogfennu’r broses datblygu, yn gwerthuso, yn rhannu adnoddau, ac yn rhannu’r rhain trwy ein rhwydweithiau a’n presenoldeb cyfryngau cymdeithasol.

Bydd ProMo yn ymddwyn fel y prif sefydliad dosbarthu, yn cydweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Blaenau Gwent a BGC Cymru i ymgysylltu gyda phobl ifanc yn effeithiol.

Canlyniadau bwriadedig

Byddem yn ymateb at yr anghenion a’r heriau penodol sydd yn wynebu pobl ifanc ym Mlaenau Gwent pan ddaw at lythrennedd cyfryngau ar-lein; yn eu grymuso nhw (a gweithwyr proffesiynol) gyda’r sgiliau a’r gefnogaeth sydd ei angen i wella’u profiadau digidol, hyrwyddo ymddygiad ar-lein diogel a chyfrifol, a llywio’r dirwedd ddigidol yn effeithiol.

Bydd cynnwys pobl ifanc yn y broses cyd-gynllunio yn eu grymuso, ond hefyd bydd yn cyfrannu tuag at gorff ehangach o waith Ofcom yn asesu ac yn gwerthuso cynlluniau llythrennedd cyfryngau ac yn rhannu ymarfer gorau ar draws y sector.

Cadwch lygaid ar y gofod yma.