Mae ProMo yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus gyda Chynllunio Gwasanaeth i adeiladu gwasanaethau gwell gyda, ac ar gyfer pobl. Rydym yn arbenigo mewn cyd-gynllunio gyda phobl ifanc i sicrhau bod eu llais, profiad a’u hymddygiad yn hysbysu’r cynlluniad o wasanaethau digidol. Mae ProMo yn cyflwyno’r arbenigedd digidol yma ynghyd â dysgu mewn gwaith ieuenctid, trefnu cymunedol, ymgysylltiad diwylliannol a chreadigrwydd.
Wrth weithio gyda sefydliadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus, rydym yn rhannu ein mewnwelediadau ac yn cael cyfle i ddysgu o ddulliau a safbwyntiau newydd. Mae’r dysgu yma yn helpu hysbysu’r prosiectau rydym yn ei drosglwyddo, fel Meic a TheSprout. Fel menter gymdeithasol, rydym yn gwerthu gwasanaethau ar draws y DU i gynhyrchu cyllid. Mae’r cyllid yma yn cael ei fuddsoddi yn ein prosiectau cymunedol yng Nghymru fel EVI.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Samariaid a’r panel ieuenctid i gyd-gynllunio cynnyrch fydd yn gwneud gwahaniaeth i nifer o fywydau.
Am unrhyw gwestiynau ar Gynllunio Gwasanaeth, cysylltwch â arielle@promo.cymru