Bu ProMo-Cymru yn gweithio law yn llaw gyda Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) a Race Alliance Wales i gyflawni’r  prosiect “We are Wales: BAME people stepping up during Covid-19”. Ariannwyd y prosiect gan y Loteri Genedlaethol fel rhan o brosiect Dyfodol Gwell Cymru. 

Y Prosiect 

Bu ProMo-Cymru yn helpu i greu cyfres o fideos yn arddangos cyfraniadau a phrofiadau aelodau o gymunedau amlddiwylliannol ar draws Cymru yn ystod Cofid-19. Bwriad y prosiect hwn oedd cyflwyno naratif gwahanol wrth drafod cymunedau BAME yng Nghymru, sy’n dangos pobl nid fel dioddefwyr, ond fel cyfranwyr i’r economi gymdeithasol. Mae’r prosiect yn mynnu cydnabyddiaeth i’r gymuned hon a’n cyflwyno stori fwy cynhwysol o hunaniaeth Gymraeg, sy’n canolbwyntio ar gryfderau a chyfraniad aelodau o’r gymuned. 

 

Ffilmio yn yr haul


Bûm yn gweithio gyda 4 newyddiadurwr dinesydd – Martin Williams, Onismo Muhlanga, Lauren Clifford-Keane a Shazia Ali. Aeth y pedwar ati i gofnodi ac arddangos straeon a phrofiadau unigolion o gefndiroedd amlddiwylliannol ar draws Cymru. Roedd yr unigolion gafodd eu cyfweld yn bobl wnaeth gyfrannu yn hael i’w cymunedau lleol yn ystod y pandemig Cofid-19. Gan ddefnyddio eu hanesion, bûm yn gweithio gyda’r newyddiadurwyr i’w cefnogi i greu 21 o ffilmiau byrion. Roedd y ffilmiau wedi eu hanelu at 3 cynulleidfa allweddol: arweinwyr gwleidyddol, grwpiau cymunedol a phobl ifanc.

Ein dull 

Cafodd y newyddiadurwyr hyfforddiant gan ProMo ar gynnal cyfweliadau dros Zoom, a cynlluniwyd canllaw ar gyfer cynnal cyfweliadau diogel wyneb-i-wyneb yn ystod y pandemig, gan sicrhau fod yr aelodau o’r gymuned a’r newyddiadurwyr yn teimlo’n ddiogel a chyfforddus yn ystod y broses ffilmio.  

Caniataodd cymorth ProMo i’r newyddiadurwyr ddatblygu eu llais newyddiadurol eu hunain wrth gadw’n driw i’r dull a drafodwyd. Defnyddiodd ProMo ein harbenigaeth mewn golygu a chynhyrchu fideo i greu cynhyrchiad terfynol trawiadol o’r ffilm grai, gan gadw at y steil canolog.

Canlyniadau 

Cafodd 21 ffilm fer eu cyd-gynhyrchu gan y newyddiadurwyr a ProMo-Cymru. Gellir gweld y ffilmiau ar wefan wearewales.org *(link), ynghyd ag Oriel Ar-lein a dyfynodau gan y cyfranogwyr. Cafodd y ffilmiau eu harddangos mewn tri gwahanol leoliad ar draws de Cymru: Abertawe (Cinema & Co), Caerdydd (Canolfan Gelf Chapter), a Chasnewydd (The Riverfront).

Siaradodd un o’r newyddiadurwyr, Shazia Ali, efo BBC Radio Wales. Dywedodd hi:

“Y syniad yw, beth allwn ni ei wneud i gryfhau’r cysylltiadau yna eto, i gynyddu hyder, adeiladu cymuned – os gall hynny roi nerth i’r gymuned mewn ffordd. Dwi’n meddwl yn sicr fod teimlad o nerth mewn prosiectau fel hyn – y syniad ein bod yn cynyddu cryfder yn y gymuned wrth adrodd hanesion cymunedau sy’n aml ddim yn cael y cyfle i rannu eu straeon.”

Dywedodd Lauren Clifford-Keane wrth bapur y National:

“Roedd gweithio efo’r bobl a bortreadwyd yn We Are Wales yn wirioneddol ysbrydoledig ac rwyf mor falch o fod wedi gallu adrodd eu straeon ar blatfform mwy eang. Hoffwn i ddiolch i bawb gymerodd rhan am eu hamser, ymroddiad a’u haelioni yn ystod y prosiect.”

Dywedodd Nelly Adam (aka Queen Niche) wrth ProMo:

“Dwi’n meddwl fod y prosiect wedi rhoi cyfle i bobl tan-gynrychioledig ddisgleirio a’i fod wedi caniatáu iddynt fod ar blatfform nad ydynt wastad yn cael gwahoddiad arno – ac roedd cael ein gwobrwyo gyda thystysgrifau wedi’u harwyddo gan Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a derbyn cydnabyddiaeth am y gwaith, yn dangos cryfder y symudiad Black Lives Matter. Gwnaeth newyddiadurwyr We Are Wales argraff fawr arna’i, yn enwedig pa mor dalentog a gwybodus oedd Lauren – llwyddodd hi i gyfleu blwyddyn a hanner o fy mywyd mewn un ffilm fer.”

Dywedodd Marco Gil-Cervantes, prif weithredwr ProMo-Cymru:

“Mae ProMo yn falch o fod yn rhan o’r prosiect We Are Wales. [Roedd y prosiect yn…] Pwysleisio, rhoi llais a chynrychiolaeth, [i] waith gwych dinasyddion o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae’r prosiect hwn yn symud i ychwanegu at ac adeiladu hunaniaeth Gymraeg o’r nifer o bobl sy’n creu Cymru.”

Gweithio gyda ProMo-Cymru 

Os oes gennych chi ddiddordeb gweithio gyda ProMo-Cymru ar brosiect tebyg, neu os hoffech chi fanylion pellach am y prosiect, cysylltwch gyda Dayana Del Puerto dayana@promo.com.