Hyforddiant Sgiliau

Rydym yn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol mewn llythrennedd digidol, cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu creadigol, ffilm ac animeiddiad i drawsnewid y ffordd rydych chi’n cyfathrebu’ch neges. Gallem gynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol, pobl ifanc a grwpiau cymunedol ledled Cymru.

Trosolwg

Mae gan ProMo-Cymru amrywiaeth o becynnau hyfforddiant i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol o lefel cychwynwyr i uwch. Bydd hyn yn caniatáu i chi fedru defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel ac yn effeithiol yn eich sefydliad.

Gallem hefyd eich cefnogi i gyflwyno ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i godi proffil eich sefydliad yn y maes yma.

Trwy ein rhaglen Creu Straeon Digidol, byddwch yn dysgu sut i gofnodi digwyddiadau a phrofiadau. Gallem helpu chi i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys sut i greu stori fideo, dyddiadur lluniau ac ysgrifennu sgript ar gyfer stori.

Ein Dull

Gyda’r cydbwysedd cywir o addysg ac adloniant, gall addasu ein sesiynau hyfforddiant i weddu anghenion y dysgwyr. Mae’r holl sesiynau yn cael eu tanategu gan werth cyfranogiad ac yn cael eu cyflwyno gan staff cymwysedig a phrofiadol gydag achrediadau penodol fel Paratoi i Ddysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS) ac Uned Agored Cymru (UAC) Lefel 3 yn defnyddio ffilmiau i weithio gydag unigolion.

Lawrlwythwch ein llyfryn hyfforddi gweithwyr proffesiynol yma.

Lawrlwythwch ein llyfryn hyfforddi pobl ifanc yma.

___________________________

Hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol

Rydym i gyd yn ymwybodol bod y rhyngrwyd yn hanfodol i gysylltu gyda phobl ifanc, ond nid yw pawb yn ymwybodol o sut i wneud hyn yn ddiogel, yn broffesiynol neu’n effeithiol. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, sydd wedi datblygu’u rhwydwaith Facebook proffesiynol gyda ni.

Ysgrifennu i’r We

Deall cynulleidfaoedd digidol: ysgrifennu a chyflwyno cynnwys mewn ffordd sydd yn denu darllenwyr. Dysgu sut i droi datganiad i’r wasg amleiriog i mewn i rywbeth gellir rhannu dros lwyfannau mor wahanol â Facebook ac Instagram.

Hyfforddiant ymgyrchoedd marchnata

Mae’ch gwaith chi’n ddim os nad yw’n cyrraedd eich cynulleidfa. Mae ein hyfforddiant marchnata yn rhoi’r grym i chi i ymestyn allan yn effeithiol dro ar ôl tro. Mae ein hyfforddiant wedi’i selio ar 30 mlynedd fel arweinwyr yn y diwydiant ac yn gallu sefyll ar ben ei hun neu gyda hyfforddiant fel arall.

Llythrennedd Digidol

Parhewch i fod yn berthnasol. Deall y dirwedd sydd yn newid o hyd i ddeall beth yw’r ffordd gorau i’w gofleidio. Gwnewch i dechnoleg weithio i chi. Mae’r byd digidol yn newid yn barhaol, ac rydym yn brofiadol yn cadw o flaen datblygiadau.

Diogelu a Pholisi Ar-lein

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i addasu polisïau diogelu plant i’r oes ddigidol, yn eich cyfarparu â’r sgiliau i gyfathrebu’n effeithiol gyda phobl ifanc mewn amgylchedd ble maent yn teimlo’n gyffyrddus.

Fideo, ffotograffiaeth ac animeiddiad

Mae gennym yr offer a’r arbenigedd i gysylltu gyda phobl a dangos iddynt sut i gynhyrchu gwybodaeth ddigidol eithriadol. Rydym yn gwerthuso priodoldeb pob ffurf cyfrwng wrth weithio â chi, wedi’i selio ar eich anghenion, ffafriaeth a gallu.

Gweithdai Creadigol

Ysgrifennu creadigol, barddoniaeth a pharatoi i gyflwyno darllediad radio – dyma rhai esiamplau o’r sesiynau rydym yn darparu i bobl ifanc.

Gweithdai Cerddoriaeth

Gallem gyflwyno gweithdai drymio i weddu anghenion, oedrannau a gallu gwahanol fel y gallant fynegi eu hunain a datblygu hyder. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i greu cerddoriaeth gan ddefnyddio drymiau Affricanaidd ac offerynnau taro, neu greu offerynnau eu hunain hyd yn oed.

“Dwi eisiau mynegi fy ngwerthfawrogiad mawr i’r cerddor Vic Frederik am ei ymdrech mawr neithiwr ac yn y cyfnod yn arwain at berfformiad y plant. Roedd ei berthynas gyda’r gynulleidfa o rieni ac athrawon yn wych ac roedd yn amlwg bod y plant wedi mwynhau eu hamser ac wedi gwerthfawrogi ei ymdrechion”

Gareth Hughes, Cydradd Cymru