Er mwyn creu gwybodaeth i bobl ifanc sydd yn effeithiol, rhaid i lais bobl ifanc ddylanwadu arno. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Wavehill, yn  helpu i gasglu safbwynt pobl ifanc er mwyn gwerthuso Twf Swyddi Cymru+, rhaglen hyfforddiant a datblygu Llywodraeth Cymru.

Beth sydd ei angen

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn fenter gan y Llywodraeth i helpu pob person ifanc 16-18 yng Nghymru, sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i gael swydd. Mae’n rhoi sgiliau, cymwysterau a phrofiadau iddynt sydd eu hangen mewn cyflogaeth.

Fel rhan o asesu effeithiolrwydd y rhaglen yma mae Wavehill, gwerthuswyr annibynnol, wedi galw arnom i helpu am ein harbenigedd Cynllunio Gwasanaeth a’n profiad helaeth yn cynllunio ac yn cyfathrebu gyda phobl ifanc.

Yr hyn rydym yn gwneud

Ein rôl yw recriwtio a gweithio gyda grŵp o bobl ifanc i helpu gyda gwerthusiad Wavehill. Byddem yn creu hysbyseb dwyieithog ar gyfer cyfryngau cymdeithasol i recriwtio pobl ifanc ledled Cymru sydd â phrofiadau bywyd amrywiol. Bydd y panel o bobl ifanc yma yn helpu i siapio’r ymchwil a’r gwerthusiad.

Dilynwch ein diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr.