Yn y cyfnod clo cyntaf, cynhaliodd ProMo-Cymru arbrawf brandio digidol arloesol. Ymgysylltwyd â 4000 o bobl ifanc yng Nghaerdydd gydag ymgynghoriadau ar-lein. Y nod oedd cynllunio gyda phobl ifanc, yn cysylltu â nhw a rhoi llais iddynt. Dyma stori creu brand ieuenctid newydd mewn pythefnos.

Roedd ProMo-Cymru wedi lansio brand newydd i’r llinell gymorth Meic Cymru yn ddiweddar, ac roedd hyn wedi creu cynnydd cyrhaeddiad ac ymgysylltiad sylweddol. Roeddem yn awyddus i arbrofi gydag adeiladu brand ieuenctid o ddim, gyda phobl ifanc yn gwneud yr holl benderfyniadau brandio.

Sgrinluniau o gychwyniad Caerdydd Dienw

Ein Dull

Yn cadw draw o raglenni cyfathrebu fideo ar bwrpas gan fod pobl ifanc wedi dechrau blino o’u defnyddio, penderfynwyd defnyddio polau Instagram taledig yn lle hynny i ofyn cwestiynau am elfennau brand a ffafriaeth. Byddai hyn y caniatáu i ni ddeall yn well beth mae pobl ifanc yn hoff ohono’n ddigidol.

Cychwynnwyd gyda chyfrif Instagram gwag newydd, heb unrhyw frandio, heblaw am y teitl ‘Caerdydd Dienw/Unnamed Cardiff’ a marc cwestiwn fel y llun proffil. Roedd hyn yn rhoi llechen lân i’r brand ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu rhoi mewnwelediadau gwreiddiol. Tyfodd y porth Instagram mewn camau yn ddibynnol ar ganlyniadau’r polau. Roedd hyn yn creu rhywbeth roedd pobl ifanc wedi adeiladu eu hunain.

cwestiwn ymgynghori ar liw Caerdydd Dienw

Roedd rhaid i ni ddefnyddio dull ymatebol, gyda’r pôl yn rhedeg am ddiwrnod. Ar ôl cael y canlyniad roedd brasddyluniadau yn cael ei greu a chwestiynau dilynol at y diwrnod canlynol. Roedd yn gyffrous ac yn heriol i barhau i ddatblygu’r brand yn seiliedig ar fewnbwn miloedd o bobl ifanc.

Sefydlwyd y cwestiynau ar 5 prif elfen brandio: ffont, lliw, steil, enw a logo. Ymhob cam, roedd pobl ifanc yn cael dau opsiwn i bleidleisio amdanynt. Dim ond dau opsiwn cynigwyd oherwydd cyfyngiadau’r polau ar Instagram.

Cwestiwn logo Caerdydd Dienw a'r proffil ar y diwedd

Erbyn diwedd y pythefnos, roedd dros 4,000 o bobl ifanc 13-25 oed yng Nghaerdydd wedi cymryd rhan yn arbrawf Caerdydd Dienw. Yn creu brand cyfan o ddim, gan gynnwys logo, steil ac enw. Fel sefydliad rydym wedi dysgu lot mawr am ffafriaeth pobl ifanc ac mae wedi bod yn gyffrous cael rhoi ymgysylltiad llwyddiannus ar waith, a bod posib gwneud hynny’n sydyn iawn gyda’r fath yma o ymgynghori. Byddem yn defnyddio’r hyn dysgwyd ac yn ei ddefnyddio mewn prosiectau’r dyfodol gyda hyder bod y dull yma yn gallu bod yn llwyddiannus iawn.

I unrhyw sefydliadau sydd eisiau arbrofi gyda dulliau ymgysylltu digidol newydd, cysylltwch â andrew@promo.cymru