Pwyllgor Rheoli
Mae gan Laura brofiad a gwybodaeth rhanddeiliad ac ymgysylltiad myfyrwyr, rheoli digwyddiadau a materion cydraddoldeb ac amrywiaeth. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, cafodd ei hethol fel Swyddog Merched a bu’n gweithio’n cynrychioli myfyrwyr ar amrywiaeth o faterion polisi ac ymgyrchoedd. Wedi graddio, cyflawnodd Laura brosiect ymchwil gyda Chyngor Dinas Caerdydd ar ymgysylltiad ieuenctid a chyfryngau cymdeithasol yng nghyd-destun llymder. Bellach mae’n gweithio fel Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr, yn rhoi cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth berthnasol i fyfyrwyr.