Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc i greu prototeip ar gyfer dyfodol gwybodaeth ieuenctid digidol.

Mae’r Sprout wedi bod yn darparu gwybodaeth, newyddion a digwyddiadau i, a gyda, phobl ifanc Caerdydd ers 2007. Rydym wastad wedi datblygu gyda’r cyfnod ac wedi gwella’r Sprout yn unol â’r hyn mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn arbrofi ychydig wrth ddatblygu’r ffordd rydym yn cyflwyno gwybodaeth, yn ei wneud yn haws i bobl ifanc ei ddeall, a gweithredu arno. Rydym yn ceisio cyfuno’r bwriad yma a’i wneud yn haws i fwy o bobl ifanc gyfrannu i’r Sprout. Nid yw pob un o’r arbrofion yn gweithio ond mae’r rhai sydd yn llwyddiannus yn gallu rhoi syniad i ni o ddyfodol gwybodaeth ieuenctid. Un o’r arbrofion sydd wedi bod yn llwyddiannus ydy’r defnydd o straeon AMP.

Mae straeon AMP yn caniatáu i ni gyfuno adroddiadau, ffotograffiaeth, fideos a graffeg symudol, i roi pwynt mynediad mwy gweledol i bobl ifanc wrth iddynt chwilio am wybodaeth. Rydym wedi cael yr amser a’r arian i wneud hyn gan Teuluoedd yn Gyntaf Caerdydd a Sefydliad Paul Hamlyn.

Wedi sefydlu ar feddalwedd arbrofol Straeon AMP Google, mae Straeon yn erthyglau fertigol, aml-gyfryngol, sydyn, wedi’u dylunio i gynulleidfa dyfeisiau symudol. Maer rhain yn gyfarwydd o’r apiau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd, gan gynnwys Instagram a Snapchat. Cryfder y fformat Stori Sprout ydy ei fod yn distyllu gwybodaeth y Sprout i ffurf delwedd gyntaf, heb jargon, sydd yn hawdd i bawb ei ddeall. Yn ogystal, mae unrhyw gynnwys Straeon Sprout yn gallu cael ei ddefnyddio eto ar Straeon Instagram ac i’r gwrthwyneb. Mae hyn yn caniatáu i ni ail adrodd straeon dros amrywiaeth ehangach o ffurfiau hygyrch. Mae natur cyfarwydd straeon ymysg pobl ifanc yn sicrhau bod y Sprout yn parhau i gael ei ddefnyddio ac yn cadw’n berthnasol.

Mae straeon y Sprout yn esiampl dda o sut mae ProMo-Cymru yn gallu helpu sefydliadau i  ragweld ffyrdd gwell i siarad gyda phobl wrth ddefnyddio offer digidol.

Os hoffech ddarganfod mwy, cysylltwch â andrew@promo.cymru