Mae ProMo-Cymru wedi bod yn cefnogi’r gymdeithas tai Cadwyn i ymgysylltu gyda thenantiaid. Rydym wedi bod yn gweithio gyda nhw i adolygu’r ffordd maent yn cysylltu gyda thenantiaid ac yn eu cefnogi i weithredu ar rai o’n hawgrymiadau.

Mae ein gwaith gyda Cadwyn yn edrych ar wella profiad cyffredinol tenantiaid wrth ddefnyddio’r dull ‘Gwrando, Gweithredu, Cyfathrebu’ a defnyddio ymrwymiad digidol fel bod gwasanaethau yn ymateb yn well i anghenion tenantiaid.

cadwyn-promo-cymru-listening-to-the-tenants

Llais y bobl

Mae siarad gyda chymaint o denantiaid a staff â phosib, a gwrando arnynt, wedi bod yn gymorth wrth ddatblygu safbwynt amrywiol am gyfranogiad tenantiaid. Wrth holi am y fath o ddialog yr hoffant gyda landlordiaid, dywedodd tenantiaid yr hoffant dderbyn gwybodaeth a chael cyfle i rannu barn a chael trafodaethau cwbl agored.

Awgrymwyd bod Cadwyn yn mabwysiadu’r dull ‘Gwrando, Gweithredu, Cyfathrebu’ i weithredu ymrwymiad tenantiaid effeithiol:

Gwrando – clywed beth sydd gan amrywiaeth eang o denantiaid i’w ddweud a dysgu o hyn

Gweithredu – yn dilyn y gwrando, gweithredwch yn ôl yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu

Cyfathrebu – darparu adborth i denantiaid ar yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu a beth sydd wedi’i roi ar waith o ganlyn hyn

Gweithio gyda thenantiaid

Dywedodd y tenantiaid eu bod eisiau gwybodaeth oedd yn hawdd i ddeall. Yna bûm yn gweithio â nhw i gasglu awgrymiadau i symleiddio gwybodaeth a phrosesau cymhleth. Er esiampl, bûm yn gweithio gyda grŵp o denantiaid Cadwyn i gyd-gynhyrchu animeiddiad byr yn egluro sut gallant gymryd rhan mewn cyfranogiad ac ymgysylltiad tenantiaid.

Gyda’n cymorth a’n cefnogaeth, drafftiodd y tenantiaid sgript fydda’n hawdd i bawb ei ddeall, wedi’i ysgrifennu mewn ffordd oedd yn apelio iddyn nhw. Ymunodd un o’r tenantiaid â ni yn y stiwdio i recordio’r troslais ar gyfer yr animeiddiad, a dywedodd bod hyn yn “brofiad gwych”.

Nid oes fersiwn Cymraeg o’r fideo yma

Beth allem gynnig i gymdeithasau tai

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda mwy o gymdeithasau tai i wella’r ffordd maent yn cynnwys eu tenantiaid wrth drosglwyddo gwasanaeth a gwneud gwelliannau parhaol.

Yn arbenigo mewn ymgysylltiad digidol, rydym yn credu mewn cyd-gynllunio gwybodaeth a llwybrau cyfathrebu clir gyda’n cleientiaid a’r bobl maent yn gweithio â nhw. Rydym yn canolbwyntio ar gynhwysedd, hygyrchedd a llais.

Gallem weithio gyda chi i:

Trawsffurfio diwylliant, systemau a phrosesau trefniadaeth i wella profiad y cwsmer

Cysylltu gyda thenantiaid, deall yr hyn sydd yn bwysig a chaniatáu i’w barn siapio gwasanaethau

Cyfathrebu digidol effeithiol, yn darparu tenantiaid gyda gwybodaeth o ansawdd yn ogystal â chasglu adborth cyfredol fel rhan o welliannau parhaol

I ddarganfod mwy, cysylltwch â nathan@promo.cymru


Mae ProMo-Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o waith, ymwelwch â’n hadran Ein Gwaith i weld rhestr o’r gwasanaethau rydym yn ei gynnig a chymerwch olwg ar ein tudalen Prosiectau i weld rhai o’r prosiectau rydym eisoes wedi gweithio arnynt.