Defnyddiodd ProMo-Cymru ein profiad o ddarparu gwasanaethau digidol i gefnogi datblygiad Lein Gymorth Amlieithog Cymru.

Mae llawer o sefydliadau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru wedi gweld galw cynyddol am wasanaeth gan aelodau’r cymunedau yng nghanol y pandemig Covid-19, ac angen cyngor a chefnogaeth mewn sawl maes. Daeth partneriaeth o sefydliadau at ei gilydd i lansio llinell gymorth cenedlaethol amlieithog newydd ar 7 Medi 2020 i ymateb i’r galw hwn.

Derbyniodd EYST, yn gweithio mewn partneriaeth â Women Connect First, Sefydliad Henna, ProMo-Cymru, TUC Cymru a hapddalwyr allweddol, gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol a reolir gan CGGC i ddarparu’r llinell gymorth, fel prosiect peilot chwe mis i gychwyn.

Bydd y llinell gymorth yn darparu man galw cyntaf hygyrch am wybodaeth ar amryw sefydliad arbenigol, prif ffrwd a chymunedol, gyda thrinwyr galwadau yn siarad amryw iaith gymunedol.

Yr Hyn y Gwnaethom

Fel y partner digidol, cefnogodd ProMo-Cymru Lein Gymorth Amlieithog Cymru trwy’r broses o gynllunio brand, gwefan, sefydlu technoleg a hyfforddi staff ar y systemau newydd a’r ffyrdd newydd o weithio.

Datblygwyd enw, logo a gwefan ddwyieithog ar gyfer y llinell gymorth. Wrth ddewis enw ar gyfer y gwasanaeth, trafodwyd ychydig o syniadau gwahanol. Cytunwyd ar ‘Llinell Gymorth BAME Cymru’ am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae’r derminoleg BAME (sy’n cyfeirio at bobl Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) yn un cyfarwydd iawn. Mae hyn yn helpu o ran marchnata a chodi ymwybyddiaeth, roeddem eisiau ychwanegu Llinell Gymorth Cymru er eglurder – mae pobl yn gwybod yn union beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig.

Roedd angen i ni ddewis enw i greu URL gwefan fer gan fod hyn yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i’r gwasanaeth. Wrth edrych ar ddewisiadau cyfeiriad gwefan, roedd bame.wales a bame.cymru ar gael, sydd yn golygu bod gennym gyfeiriadau ar gyfer fersiynau Saesneg a Chymraeg o’r wefan.

Wrth greu’r logo, roeddem am iddo fod yn syml ac yn hawdd ei gysylltu â’r llinell gymorth fel gwasanaeth. Penderfynom ddefnyddio cysyniad y swigen sgwrsio fel sylfaen i’r dyluniad gan ei fod wedi’i gysylltu’n eang â llinellau cymorth. Mae’r logo’n cynnwys dwy linell yn dod at ei gilydd ac yn ffurfio siâp y swigen siarad – yn symbol o leisiau’n dod at ei gilydd.

O ran adeiladu’r wefan, roeddem am greu gwefan cyflym, glân a hygyrch sydd yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei angen ar ddefnyddwyr, heb eu gorlethu â thestun neu dudalennau lluosog. Roedd rhaid i’r wybodaeth fod yn hawdd ei ddarganfod ac wedi ysgrifennu mewn iaith gyfeillgar i’r defnyddiwr. Rydym hefyd yn gwybod bod cyflymder llwytho tudalennau yn hanfodol i ddefnyddwyr, yn enwedig ar ffonau symudol sydd â mynediad cyfyngedig i ddata. Gyda hyn oll mewn golwg, aethom ati i greu dyluniad un dudalen wedi’i adeiladu ar WordPress. Mae’r wefan yn llwytho’n gyflym (dim ond 2.1 eiliad), yn defnyddio ffont sans agored hygyrch, yn ysgafn ar destun, ac, yn bwysig iawn, mae’n ymatebol, sydd yn golygu ei fod yn gweithio ar unrhyw ddyfais – cyfrifiadur, tabled neu symudol.

Roeddem yn darparu cyngor technegol ac yn cyflenwi’r dechnoleg sydd ei angen i redeg y llinell gymorth. Roedd hyn yn cynnwys cael cyfrifiaduron addas ar gyfer y tîm staff a sefydlu’r systemau i redeg gwasanaeth ffôn a neges testun.

Cyflwynodd ProMo-Cymru gyngor ymgynghorol ar redeg llinell gymorth, cefnogi recriwtio’r tîm llinell gymorth a darparu cyfres o sesiynau hyfforddi ar gyfer rheolwyr a chynghorwyr. Roedd y rhain yn trafod y gwahanol agweddau o redeg llinell gymorth o sefydlu systemau gweithredol i hyfforddiant sgiliau cyfathrebu ac ymyriadau trwy negeseuon testun a galwadau ffôn.

Mae ymgynghoriaeth a hyfforddiant parhaus ar waith i fynd i’r afael ag anghenion sydd yn dod i’r amlwg wrth i’r llinell gymorth sefydlu ei hun.

Gellir gweld ein dull o ddatblygu llinellau cymorth yn ein  Model TYC 

Mae Lein Gymorth Amlieithog Cymru ar gael o ddydd Llun – dydd Gwener: 10.30yb – 2.30yp.

Rhif y llinell gymorth yw 0300 2225720 a neges testun SMS ar 07537 432416 y wefan yw www.multilingualhelpline.wales

I ddarganfod mwy am weithio gyda ni, cysylltwch â Cindy Chen ar cindy@promo.cymru