Cafodd ProMo-Cymru a Youth Cymru eu comisiynu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) i ymchwilio a phrofi ffyrdd i roi arweiniad ariannol i oedolion ifanc Cymru (18-25) sydd ar fin cychwyn yn y gweithle (gan gynnwys prentisiaethau).

Aethom ati i greu a phrofi 3 gwasanaeth prototeip ar gyfer y prosiect Youth Checkpoints. Y bwriad oedd darparu’r dysgu a’r awgrymiadau i MaPS wedi’i selio ar adborth y defnyddiwr er mwyn arwain unrhyw ddatblygiadau’r dyfodol.

Dull

Roeddem yn ofalus i sicrhau bod y prosiect yn cael ei chyd-gynllunio gyda phobl ifanc a’r ymarferwyr sydd yn cynnig cefnogaeth iddynt, gan ddefnyddio methodoleg Cynllunio Gwasanaeth.

Gyda chyfuniad o ymchwil cychwynnol ac eilaidd, bûm yn ymgynghori â dros 6,000 o bobl ifanc, 60 o ymarferwyr a chynnal adolygiad maes o’r dystiolaeth sydd yn bodoli.

Datblygu’r prototeipiau

Gan fod y prosiect yn canolbwyntio ar sut i ddatblygu a mewnblannu rhaglenni aml-sianel i ddarpariaethau sydd yn bodoli eisoes ar gyfer pobl ifanc, penderfynom fod angen datblygu a thargedu ein prototeipiau tuag at yr ymarferwyr oedd yn cefnogi pobl ifanc yn barod o ddydd i ddydd.

Penderfynwyd ar y tri phrototeip canlynol:

Gwasanaeth llinell gymorth lle gall ymarferwyr gyfeirio pobl ifanc
Hyfforddiant i ymarferwyr fedru cefnogi pobl ifanc gyda gallu ariannol
Gwefan hygyrch a chyfres o adnoddau i ymarferwyr ei ddefnyddio gyda phobl ifanc

Argymhellion Allweddol

Yn dilyn chwe wythnos o brofi’r prototeipiau gyda 25 o ymarferwyr a 10 o bobl ifanc, a dadansoddiad ac asesiad beirniadol o’r darganfyddiadau, argymhellion cyflawn y prosiect oedd:

▸ Argymhelliad 1 – Dilyn dull holistig i ddarparu arweiniad ariannol ar gyfer pobl ifanc
▸ Argymhelliad 2 – Datblygu adnoddau ariannol dwyieithog sydd yn gyfeillgar i bobl ifanc
▸ Argymhelliad 3 – Datblygu llwybr llywio cefnogaeth glir i bobl ifanc yng Nghymru
▸ Argymhelliad 4 – Defnyddio dulliau a thechnegau cyfathrebu cyfoes i gysylltu gyda phobl ifanc ar y pwnc arian
▸ Argymhelliad 5 – Codi ymwybyddiaeth ymysg ymarferwyr o anghenion pobl ifanc, fel y gallant ddeall y problemau ariannol gwaelodol yn well a darparu cefnogaeth fwy perthnasol ac addas
▸ Argymhelliad 6 – Datblygu hyfforddiant arbenigol i ymarferwyr ieuenctid i’w cyfarparu i fod yn fwy hyderus i helpu pobl ifanc
▸ Argymhelliad 7 – Sicrhau bod adnoddau ac offer y gwasanaeth arian a phensiynau sydd yn bodoli eisoes, yn cael eu gwneud yn fwy hygyrch at ddefnydd ymarferwyr a phobl ifanc
▸ Argymhelliad 8 – Defnyddio cyfuniad o hyfforddiant ar-lein ac wyneb i wyneb ar gyfer ymarferwyr

Canlyniadau

Roedd ein hymchwil yn ategu darganfyddiadau a thystiolaeth flaenorol ar y ffordd orau i roi arweiniad ariannol i bobl ifanc (18-25). Roedd hefyd yn cadarnhau ein hypothesis. Wrth ddarparu hyfforddiant gallu ariannol i ymarferwyr, a datblygu gwefan hygyrch gyda rhestr o adnoddau ac offer defnyddiol, byddai pobl ifanc yn gallu derbyn gwell gefnogaeth ariannol. Yn hanfodol, aethom ati i greu llwybr o gefnogaeth, sydd yn cychwyn yng nghyfnodau addysgadwy allweddol pobl ifanc.

Mae’r darganfyddiadau yma wedi cael eu cyhoeddi a’i rannu gydag ymarferwyr a’r prif rai sydd yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, rydym yn cysylltu ein hymchwil gyda datblygiadau strategol a gyriedyddion fel y datblygiadau Gwybodaeth Ieuenctid Cenedlaethol sydd yn digwydd gyda’r Grŵp Digidol a Gwybodaeth fel rhan o Fwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Llywodraeth Cymru, Fforwm Gallu Ariannol Cymru Gyfan MaPs a’r Fforwm Gallu Rhanbarthol.

Mae copi o’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho yma.

Gweithio gyda ProMo-Cymru

Os oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda ProMo-Cymru ar brosiect cynllunio gwasanaeth, neu eisiau gwybodaeth bellach am y prosiect, rydym yn hapus iawn i gael sgwrs! Cysylltwch â Cindy Chen ar cindy@promo.cymru