Fel rhan o Ddiwrnod Gweithredu Cenedlaethol Gofalwyr Ifanc, bu ProMo-Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â YMCA Abertawe i gynhyrchu fideo ar y cyd â grŵp o Ofalwyr Ifanc. Roedd yn gyfle iddynt rannu profiadau a chael llais.

Manylion y prosiect

Mae yna 3 o ofalwyr ifanc ymhob dosbarth yn y DU ar gyfartaledd. Ond, nid oes llawer iawn o gyfle i addysgu a chodi ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc. Oherwydd hyn, mae’n gallu bod yn anodd i bobl ifanc roi cefnogaeth i’w cyfoedion, neu i ddarganfod cefnogaeth eu hunain.

Pwrpas y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc, yr hyn maent yn ei wneud, yr heriau sy’n eu hwynebu, a ble i fynd i chwilio am gefnogaeth os ydych chi’n ofalwr ifanc. Penderfynwyd mai’r dull orau i gyflawni hyn oedd creu fideo animeiddiad. Bydd hwn yn cael ei greu’n ddwyieithog, yng Nghymraeg a Saesneg.

Beth ddigwyddodd?

Bu ProMo-Cymru yn cyfarfod gyda gofalwyr ifanc yn rhithiol ac yn gweithio i greu’r fideo. Pwrpas y sesiynau ar-lein oedd grymuso pobl ifanc gan hefyd bod yn ystyriol o’u teimladau a’u profiadau.

Roedd yn hanfodol i bawb yn ProMo-Cymru i greu stori am wir brofiadau gofalwyr ifanc a’u cynnwys nhw wrth greu’r fideo. Wrth addysgu pobl ifanc yn y gwahanol gamau o gynhyrchu, roeddent yn rhan o bob agwedd – o greu bwrdd stori, sgriptio a throsleisio’r animeiddiad.

“Roeddem yn awyddus i roi’r cyfle yma iddynt gan ein bod yn credu yn eu creadigrwydd. Mae’r mewnwelediad unigryw sydd i’w gael o brofiadau gofalwyr ifanc yn rymus iawn,” meddai Daniele, fu’n arwain y prosiect.

Bwrdd stori i greu fideo gofalwyr ifanc

Canlyniadau?

Cyd-gynhyrchwyd fideo llwyddiannus gyda ProMo-Cymru oedd yn cynnwys profiadau gofalwyr ifanc Cymru. Cafodd y fideo ei ryddhau fel rhan o ddathliadau Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ar 16 Mawrth 2021. Rhannwyd y fideo ar Plant Mewn Angen y BBC i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a cheisio denu rhoddion at achos da.

Gyda diddordeb mewn gweithio gyda ni i greu fideos sydd yn cefnogi pobl ifanc? Cysylltwch â Dayana ar dayana@promo.cymru.