Mae gan ProMo-Cymru a’r Ministry of Life (MoL) hanes helaeth o gefnogi pobl ifanc i ddatblygu mentrau cymdeithasol. Daeth Canolfan Cydweithredol Cymru â’u profiad a’u rhwydweithiau nhw fel y corff arweiniol ar gyfer datblygu cydweithredol yng Nghymru. Arweiniodd y cyfuniad unigryw yma o sgiliau at greu’r adnodd dysgu ‘Cydweithfa Mewn Bocs’
Ein nod: cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r model cydweithredol.
Beth wnaethon ni
Prototeip Cydweithfa Mewn Bocs.
Yn Hydref a Gaeaf 2019, yn dilyn y dyluniad cychwynnol, cyflwynwyd y prototeip Cydweithfa Mewn Bocs i Glwb Ieuenctid Pentwyn a’i dreialu gyda grŵp o bobl ifanc. Roedd yr adborth yn bositif, a gallai’r bobl ifanc ddychmygu a deall bwriad y gweithgaredd Cydweithfa Mewn Bocs yn hawdd.
Wrth weithio trwy’r cyfnod gêm, roedd y grŵp wedi deall y benbleth foesegol o ‘tegwch a chydraddoldeb’, ac o ganlyniad lluniwyd atebion i weithio ar y cyd yn deg ac yn ddemocrataidd.
I un person ifanc, llwyddodd y prosiect Cydweithfa Mewn Bocs eu hysbrydoli i ddatblygu eu syniadau yn gynllun busnes mwy ffurfiol. Daethant i’r casgliad hefyd y dylid gwneud penderfyniadau busnes trwy system bleidleisio ddemocrataidd.
Yn dilyn adborth pellach gan bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yng Nghlwb Ieuenctid Tremorfa a grŵp wedi’i leoli yn Llyswyry, Casnewydd, aethom ati i greu dau fersiwn o’r prototeip. Un fersiwn i rai dan 16 oed a’r llall i rai dros 16.
Roedd y prototeipiau gorffenedig yn caniatáu i bobl ifanc weld eu cynnydd yn fwy clir, a phan oedd wedi gorffen dywedodd un: “mae’n edrych yn fwy ac yn fwy trawiadol”.
Ym mis Mawrth cyflwynwyd Cydweithfa Mewn Bocs yng nghyfarfod Trawsbleidiol Cydweithfa Cymru yn y Senedd a Chynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid Cymru.
Rhoddodd llawer o sefydliadau eu manylion cyswllt gan fynegi diddordeb mewn prynu esiamplau o’r teclyn dysgu.
Cafwyd adborth positif gyda sawl unigolyn a sefydliad yn mynegi pa mor effeithiol yr oeddent yn teimlo y byddai’r cynnyrch fel teclyn dysgu:
“Mae’n rhyngweithiol, yn annog pobl ifanc i ganolbwyntio a chynllunio ar gyfer syniadau yn y dyfodol.”
“Effeithiol i helpu i ddarparu dealltwriaeth o sut i gychwyn eich busnes eich hun.”
“Syniad y gellir ei reoli ac mae’n helpu pobl ifanc i ddeall y darlun mawr a’r darlun bach.”
Camau nesaf
Rydym yn falch gydag effeithiolrwydd y prototeip Cydweithfa Mewn Bocs a’r effaith y mae wedi’i gael ar grwpiau amrywiol mewn gwahanol leoliadau.
Mae’r teclyn dysgu Cydweithfa Mewn Bocs yn arbennig o addas ar gyfer datblygu arferion cynaliadwy a moesegol. Mae pandemig Covid-19 yn cael effaith ddramatig ar amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd ledled y DU ac yn rhyngwladol gyda llawer yn sôn am y newid sydd ei angen mewn gwerthoedd cymdeithasol. Gall Cydweithfa Mewn Bocs weithredu fel modd i ysbrydoli ac annog meddwl yn arloesol ar gyfer busnes cynaliadwy a moesegol ac i adeiladu cydweithfeydd yfory.
Os hoffech chi brynu Cydweithfa Mewn Bocs, cysylltwch â Joff yn Ministry Of Life E-bost: Ministryoflife@live.co.uk
Os oes gennych ddiddordeb yn datblygu adnodd addysgol eich hun gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer, cysylltwch ag Auguste yn ProMo-Cymru E-bost: auguste@promo.cymru