Comisiynwyd ProMo-Cymru gan Holos Education i gynhyrchu cyfres o animeiddiadau i helpu plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol, a’u rhieni, gyda’r trosiad o’r hen system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Ymgynghorwyd â phobl ifanc ar holl gynnwys y fideos – o’r sgript i’r steil a’r fformat. Adolygwyd hefyd gan ein tîm o gynghorwyr llinell gymorth sydd yn siarad gyda phlant a phobl ifanc yn ddyddiol.

Mae cyfanswm o dri fideo yn darparu canllaw cyfeillgar i ieuenctid yn edrych ar y pynciau canlynol:

– Oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol a’r broses o greu Cynllun Datblygu Unigol (CDU)
– Canllaw i rieni i gefnogi eu plant
– Sut i apelio i’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig (Cymru)

Mae’r fideos wedi’u creu mewn partneriaeth â chynghorau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Bydd y fideos i’w gweld ar eu gwefannau.

Gall pobl ifanc gael mynediad i’r fideos yma drwy god QR sydd yn ymddangos ar bosteri mewn ysgolion.