Gweinyddwr Swyddfa/Cydlynydd Adnoddau Dynol
Mae Patricia wedi bod yn gweithio gyda ProMo-Cymru ers ei sefydliad fel Swyddog Datblygu Cydweithredol, Ymddiriedolwr a bellach fel Cydlynydd AD. Mae’r swyddi amrywiol yma wedi rhoi ymwybyddiaeth iach o’r cwmni iddi. Gyda blynyddoedd o brofiad a gradd mewn Datblygiad Busnes, mae wedi gweithio dros Gymru yn rhoi cyngor busnes a rheoli prosiectau. Roedd Pat yn aelod o Fwrdd Rheoli Ariannu Ewrop Bro Morgannwg ac ar banel ymgynghorol Amcan 2, yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar yr ymchwil Cyfenter. Aelod cysylltiol o’r CIPD ac yn derbyn hyfforddiant cyson ar gyfer ei swydd.