Hyfforddi pobl ifanc i gyflwyno a chynhyrchu radio.

Mae ProMo-Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous gyda Chanolfan Mileniwm Cymru i ddatblygu gorsaf radio wedi’i arwain gan bobl ifanc. Rydym yn hyfforddi ac yn cefnogi pobl ifanc gyda chwrs achrededig 6 wythnos.

Mae’r bobl ifanc yn dysgu sgiliau mewn newyddiaduraeth darlledu, cyflwyno, cyfweld, golygu a defnyddio stiwdio. Rydym yn gweithio gyda darpar gyflwynwyr i gyflwyno sioe eu hunain a’u hannog i gael llais ar yr hyn sydd yn bwysig iddyn nhw. Mae’r rhai sydd yn cwblhau’r cwrs yn ennill achrediad UAC ‘Paratoi i Gyflwyno Darllediad Radio’. Mae dros 100 o bobl ifanc wedi bod yn rhan o’r prosiect hyd yn hyn.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn datblygu rhaglen hyfforddiant teilwredig, cysylltwch â ni.