Mae ProMo-Cymru wedi tyfu ein gallu i gefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus gyda chymorth cyllid o’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol.

Mae ProMo wedi tyfu 10% fel menter gymdeithasol bob blwyddyn ers 2017 yn rhannol drwy gefnogaeth ariannol sydd yn cael ei reoli gan CGGC o’r Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Diolch i’n cyllid diweddaraf o £48,926.82 gan Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol Cymru mae wedi rhannol ariannu ein gallu i recriwtio tri o staff (gan gynnwys pobl ifanc) a phrynu offer newydd oedd ei angen i gynhyrchu fideo a chyfryngau o ansawdd uchel. Roedd hyn yn caniatáu i ni gyrraedd gofynion cynyddol y trydydd sector a’r sector cyhoeddus am gefnogaeth gyda digidol a chyfryngau.

Mae ProMo yn credu’n gryf yn y model menter gymdeithasol i drosglwyddo tyfiant economaidd cynaliadwy. Rydym yn gweithredu fel elusen ac yn darparu gwasanaethau wedi’u cynllunio gyda phobl ifanc a chymunedau i wella eu bywydau. Mae hwn wedi rhoi mewnwelediad unigryw i adeiladu gwasanaethau digidol a gofodau cymunedol. Mae ein cangen fasnachol yn caniatáu i ni werthu’r arbenigedd yma, gan gefnogi ein nodau elusennol ymhellach.

Am wybodaeth bellach am y ffordd gallem weithio â’n gilydd, ymwelwch â’n tudalen Gwasanaethau.