Roedd Llywodraeth Cymru eisiau datblygu’r wybodaeth diogelwch ar-lein oedd ar gael ar lwyfan dysgu Hwb gyda chyngor oedd yn targedu plant a phobl ifanc yn benodol.

Cafodd ProMo-Cymru ei benodi i ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc er mwyn datblygu cyngor wedi’i deilwro’n arbennig i’w cefnogi gydag unrhyw faterion neu bryderon roeddent yn ei brofi ar-lein.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn cynnal prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol a chyd-gynllunio, y cam cyntaf oedd siarad gyda phobl ifanc am y wybodaeth roeddent ei angen.

Ein dull

Cynhaliwyd chwe grŵp ffocws gyda 53 o bobl ifanc rhwng 9 a 15 oed ledled Cymru. Roedd Google Jamboard, adnodd bwrdd gwyn rhithiol sydd yn caniatáu i chi gydweithio a gweld diweddariadau mewn amser real, yn caniatáu i ni gasglu gwybodaeth gan bobl ifanc mewn ffordd hwyl a chyfrinachol. Caniataodd i ni ddarganfod mwy am eu dealltwriaeth o rai problemau ar-lein allweddol. Rhannwyd eu profiadau a’r termau a’r iaith defnyddiwyd ganddynt. Darganfyddom sut maent yn delio fel arfer â phroblemau a ble maen nhw’n troi am gymorth. Darganfuwyd hefyd os oedd unrhyw rwystrau wrth chwilio am gymorth.

Penderfynwyd ar deg problem diogelwch ar-lein gwahanol, yn amrywio o fwlio ar-lein i rannu lluniau noeth i gynnwys sarhaus. Rhoddwyd bywyd i’r materion yma wrth ddatblygu senarios neu ofyn cwestiynau amrywiol i annog trafodaeth ac ymgysylltu. Rhoddwyd pleidlais amlddewis wedi’u dilyn gyda thrafodaeth, datganiadau cytuno/anghytuno, teclyn darlunio, rhestrau manteision ac anfanteision, straeon senario a chwestiynau penagored fel ‘Sut wyt ti’n meddwl byddai’n teimlo ar ôl gwylio’r fideo?”

Canlyniadau

Roedd y grwpiau ffocws yma yn gyfle i ddysgu llawer am y ffordd mae pobl ifanc yn defnyddio llwyfannau gwahanol at bwrpasau gwahanol. Mae rhai wedi’u gosod i breifat, rhai yn agored, yn ddibynnol ar y rheswm roeddent yn ei ddefnyddio.

“Dwi ddim yn ei osod yn breifat. Dwi eisiau bod yn enwog ar YouTube!”

Roedd gweld cynnwys gofidus neu annymunol yn gyffredin ar eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Roedd y mwyafrif yn deall bod clicio ar bethau o’r fath yma yn cael effaith ar algorithmau a’r hyn gwelir.

“Mae rhywun yn mynd yn chwilfrydig iawn – po fwyaf rydych chi’n clicio, y mwyaf y byddwch yn ei weld.”

Dim ond blas yw hwn o’r hyn dysgwyd. Casglwyd llawer iawn o wybodaeth a roddodd gipolwg gwerthfawr i ni am ymddygiad pobl ifanc ar-lein. Dangosai, er y gallwn ni roi arweiniad iddynt, mae’n anochel y bydd pethau yn mynd o chwith weithiau. Mae’n fuddiol iddynt gael ffynhonnell gwybodaeth ddibynnol annibynnol.

Dywedodd nifer y byddant yn siarad gyda rhywun oedd yn gyfarwydd iddynt os oeddent yn poeni am rywbeth. Gall hyn fod yn ffrind, aelod teulu, athro ayb. Ar ôl dysgu hyn, aethom ati i greu canllaw ar wefan Meic, ‘Sut i gychwyn sgwrs i rannu problem’. Gosodwyd hwn fel y ddolen gyntaf yn yr adran ‘Ble i fynd i gael cymorth’ ar bob tudalen.

Casglwyd yr holl wybodaeth, ac aeth y tîm cynnwys ProMo-Cymru ati i ddatblygu’r cyngor ar gyfer y deg ran wahanol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol ac ymchwilio’r nifer o wasanaethau a gwybodaeth gellid cyfeirio atynt. Wedi gorffen, anfonwyd y tudalennau gwybodaeth yma yn ôl i’r grwpiau ffocws am adborth cyn cwblhau a’u cyhoeddi ar y llwyfan Hwb. Aeth tîm dylunio ProMo ati i greu asedau gweledol i gyd-fynd â’r wybodaeth hefyd.

Gweithio gyda ProMo-Cymru

Os oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda ni i gyd-gynllunio a datblygu gwybodaeth ddigidol ar gyfer eich defnyddwyr, cysylltwch ar info@promo.cymru