Mae Sefydliad Banc Lloyds yn partneru gydag elusennau bach a lleol sydd yn help pobl sydd yn delio â materion cymdeithasol cymhleth fel iechyd meddwl, digartrefedd, camdriniaeth ddomestig a dibyniaeth. Nid yw’n waith hawdd; gall fod yn flêr ac yn heriol. Ond mae maint a dealltwriaeth yr elusennau hyn o’r cymunedau lleol y maent ynddi yn golygu y gallant helpu rhai o’r unigolion anoddaf eu cyrraedd mewn cymdeithas.
Mae ProMo-Cymru yn ymdrechu i weithio ar y cyd gan wneud cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau wrth ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.
Bydd ProMo-Cymru yn cefnogi’r sefydliadau sydd yn cymryd rhan wrth:
Datblygu gwasanaethau digidol cynaliadwy a ffyrdd newydd o weithio.
Helpu iddynt gyfathrebu’n well â’u cymunedau.
Cyd-greu fideos ac animeiddiadau gyda’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau.
Os ydych chi’n ariannwr sy’n ceisio cefnogi’ch grantïon gyda digidol; e-bostiwch nathan@promo.cymru i gael mwy o wybodaeth.