Yn Cyflwyno Charlie – Cynllun Kickstart

by Halyna Soltys | 7th Meh 2021

Hoffwn eich cyflwyno i’n haelod staff Kickstart newydd, Charles Fender.

Mae ProMo-Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau pobl ifanc ac yn helpu i dyfu talent newydd. Dyma gyfle i gyflwyno Charlie, sydd yn cael ei gyflogi fel Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol a Gweinyddu drwy’r cynllun Kickstart. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan CGGC i’n cefnogi ni ac i ddatblygu ei sgiliau cyfryngau digidol a chynhyrchu cyfryngau.

Manylion Charlie

Ar ôl cwblhau’r chweched dosbarth, symudodd Charlie i Gaerdydd i gwblhau gradd baglor cynhyrchu cyfryngau. Cafodd y cyfle yn ystod y cwrs i archwilio holl agweddau’r diwydiant trwy ffilm, teledu, radio a chyfryngau cymdeithasol. Daeth yn amlwg yn fuan iawn bod ganddo angerdd tuag at gyfarwyddo, cynhyrchu a golygu mathau gwahanol o gynnwys ar-lein. Roedd rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys creu cynyrchiadau fideos cerddoriaeth a chynhyrchu digwyddiad cerddorol a’i ffrydio’n fyw yn ystod blwyddyn olaf ei radd.

Aeth â hyn gydag ef i’w radd meistr mewn Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dewisodd y cwrs yma yn y gobaith y byddai’n ehangu ei wybodaeth a gallai rhoi ei sgiliau damcaniaethol ar waith gyda’r gallu ymarferol dysgwyd yn ystod ei faglor. Dyma le datblygodd diddordeb Charlie mewn cynyddu ei sgiliau cyfryngau cymdeithasol i gario gydag ef i’w yrfa fel graddedig.

Sut mae’r cynllun Kickstart wedi helpu Charlie?

Mae swydd Charlie yn ProMo-Cymru yn cael ei gefnogi gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru (CGGC). Mae CGGC yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol i gael mynediad i Gynllun Kickstart Llywodraeth y DU. Mae’n noddi swyddi’n llawn ar gyfer pobl ifanc ledled y DU. Fel rhan o’r Cynllun Kickstart, bydd y staff yn derbyn y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol am 25 awr yr wythnos. Bydd ProMo-Cymru yn cynyddu’r cyflog yma i sicrhau ei fod yn cyrraedd Gwir Gyflog Byw.

Dywedodd Charlie: “Teimlai fel oes yn chwilio am y rôl raddedig gywir mewn cyfnod oedd mor ansicr i sawl un, a chlywais am y swydd fel rhan o’r tîm cyfryngau yn ProMo-Cymru, ac rwy’n hapus iawn cael dweud fy mod yn rhan o’r tîm yma bellach. Rwy’n edrych ymlaen at ehangu fy ngwybodaeth o’r diwydiant y gorau gallaf ac yn teimlo braint fawr o fod mewn swydd gyda rhagolygon cyffrous.”

Os hoffech weld ychydig o’r gwaith sydd yn digwydd yn ProMo-Cymru, ewch draw i’n tudalennau Prosiectau.