Ymgyrch Chwareus Nid Amheus TheSprout

by Tania Russell-Owen | 3rd Ebr 2023

Mae TheSprout, llwyfan gwybodaeth a blogio ar-lein i bobl ifanc sydd yn cael ei reoli gan ProMo-Cymru, wedi cyd-gynhyrchu ymgyrch iechyd rhywiol gyda chefnogaeth Tîm Ymestyn Allan Iechyd Rhywiol (SHOT): Gwasanaeth Perthnasau Iach.

Yn fis Tachwedd 2022, lansiwyd ymgyrch pythefnos o hyd Chwareus Nid Amheus ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol TheSprout. Mae TheSprout yn cefnogi ac yn cysylltu gyda phobl ifanc i rannu eu profiadau, cael llais, ac uwchsgilio mewn creu ymgyrchoedd. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau lleol a gwasanaethau sydd yn cefnogi pobl ifanc.

Manylion am yr ymgyrch

Gan weithio’n agos gyda staff SHOT, cafodd holiadur ei greu i rannu gyda’r bobl ifanc sydd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth. Bwriad yr holiadur oedd casglu meddyliau, teimladau, a phrofiadau cael mynediad i gefnogaeth perthnasau ac iechyd rhywiol trwy’r gwasanaeth SHOT.

Gyda chefnogaeth gweithiwr Iechyd Rhywiol, aeth deg person ifanc ati i gwblhau’r holiadur, a oedd yn helpu siapio cynnwys yr ymgyrch. Roedd hyn yn cynnwys:

– 11 blog dwyieithog i’r wefan
– Hyrwyddo ar gyfrangau cymdeithasol Twitter, Facebook ac Instagram
– 16 fideo TikTok (yn cael eu rhannu ar Instagram Reels a YouTube Shorts hefyd)

Canlyniadau’r Ymgyrch

Fel canlyniad i’r ymgyrch tudalen gwybodaeth Iechyd Rhyw TheSprout oedd y tudalen gwybodaeth fwyaf poblogaidd yn ystod y chwarter yma. Cafwyd dros 4,000 o ymweliadau gwe yng nghyfnod yr ymgyrch.

Roedd cyfryngau cymdeithasol yn hynod boblogaidd hefyd. Cafwyd cyrhaeddiad o dros 44,000 o bobl dros Instagram a Facebook yn fis Tachwedd. Draw ar Twitter cafwyd 7,029 argraffiad ar draws 48 trydar.

Yn ogystal, llwyddodd un fideo TikTok, yn egluro’r gwahaniaeth rhwng condomau mewnol ac allanol, fynd yn feiral. Hyd yma (pan ysgrifennwyd y darn yma) mae wedi derbyn:

– 545.8 mil wedi gwylio
– 23.4 mil wedi hoffi
– 82 o sylwadau
– 1750 wedi ychwanegu fel ffefryn
– 2651 wedi rhannu

Mae’r cyswllt organig yma yn dangos bod y gynulleidfa wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cynnwys.

Roedd rhai o’r sylwadau ar ein cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys cwestiynau yn gofyn am fwy o eglurhad am ddefnyddio condomau. Gofynnodd un, “Beth os ydw i’n defnyddio’r ddau (condom)?” Roedd hyn yn ein caniatáu i ymateb ac addysgu a chysylltu ymhellach gyda’r gynulleidfa.

Cafwyd cwestiynau hefyd sydd efallai ddim mor arferol pan ddaw at addysg a chefnogaeth iechyd rhyw a pherthnasau. Gofynnodd un. “Wrth wisgo condom ydy’r ferch yn colli ei morwyndod?? Ydy condom yn torri morwyndod?” Roedd ymateb i hyn yn caniatáu i ni archwilio’n ysgafn y syniadau cymdeithasol, traddodiadol a phatriarchaidd rhyw gyda’r gynulleidfa, gydag arbenigedd y tîm SHOT yn ein harwain.

Adborth am weithio gyda ProMo

Roedd Amy Stuart-Torrie, Gweithiwr Ymestyn Allan Iechyd Rhywiol o YMCA Caerdydd, yn ddiolchgar iawn wrth iddi roi adborth ar yr ymgyrch: “Hoffwn ddweud diolch yn fawr enfawr i chi a da iawn i bawb oedd yn rhan ohono. Roedd yr ymgyrch yn hollol wych. Roeddwn wedi synnu gyda’r ymgyrch, y stwff postiwyd, y dyluniadau, y cynnwys a’r dolenni i wybodaeth bellach.”

Parhaodd, “Roedd y fideos TikTok llawn gwybodaeth ac yn cysylltu, yn gynhwysol, ac yn gyfeillgar i bobl ifanc! Mae cyrraedd cymaint o bobl ifanc a darparu cynnwys cywir a chyfoes mor bwysig. Rydych chi wir wedi creu cynnwys gwych.”

Roedd aelod arall o staff YMCA Caerdydd, Amanda Thomas, yn egluro bod y cynnwys yn “hygyrch ac yn gynhwysol ac yn codi ymwybyddiaeth o waith tîm SHOT YMCA Caerdydd, tra hefyd yn darparu cynnwys llawn gwybodaeth am iechyd rhyw a pherthnasau i bobl ifanc.”

Dywedodd, “Mae’r ymateb yn dangos pa mor werthfawr yw cael gwybodaeth gyfoes, berthnasol, hygyrch a chynhwysol – mae’n rhoi grym i bobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus.”

“Roedd gweithio gyda ProMo yn wych o’r cychwyn cyntaf,” ychwanegodd Amy.

“Roedd y darnau cyfryngau cymdeithasol llawn gwybodaeth, yn hwyl, ac yn gyfeillgar iawn i bobl ifanc!”

Cytunodd Amanda, “Mae wedi bod yn bleser llwyr cael gwneud yr ymgyrch yma gyda chi! Bydd cymaint o bobl ifanc wedi buddio o’r ymgyrch hwyl ac addysgiadol yma. Mae’r pynciau trafodir yn gallu achosi cywilydd weithiau, ond roedd yr ymgyrch yn normaleiddio’r pynciau fel y dylid gwneud! Diolch!”

Ariannwyd yr ymgyrch yma gan Teuluoedd yn Gyntaf Caerdydd.

Oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda TheSprout neu yn caniatáu i bobl ifanc gael llais? Cysylltwch ag Andrew ar andrew@promo.cymru.