by Cindy Chen | 25th Tach 2019
Mae ProMo-Cymru’n gweithio gydag Ieuenctid Cymru ar brosiect ‘Youth Checkpoints’ ar ran y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Nod y prosiect yw rhoi cyngor a chefnogaeth ar faterion ariannol i bobl ifanc dan 25 oed.
Mae ein gallu i reoli arian yn dda yn hanfodol i sicrhau ein hiechyd a lles meddwl bob dydd. Trwy ddysgu sut i ofalu am eu harian, bydd pobl ifanc yn ennill sgiliau pwysig fydd yn para’u hoes.
Mae hwn yn brosiect cyffrous sydd yn ceisio dylanwadu ar ddyfodol y ffordd mae cyngor ariannol da, o ansawdd, yn cael ei ddysgu ar gyfnodau allweddol ym mywydau pobl ifanc.
Rydym yn awyddus i ymgynghori gyda phobl ifanc 18-25 oed ledled Cymru, sydd ar fin cychwyn eu swydd gyntaf neu brentisiaeth.
Byddwn yn cynnal grwpiau ffocws, lle bydd cyfle i gyfranogion drafod eu perthynas gydag arian, sut maent yn ei ddefnyddio, a pa mor wybodus ydynt yn ariannol.
Caiff unigolion/sefydliadau eu had-dalu am eu hamser.
Os oes gennych chi ddiddordeb, cliciwch yma i gysylltu â Cindy Chen am wybodaeth bellach.