Tyfu Ein Busnes Cymdeithasol

by Tania Russell-Owen | 12th Medi 2018

Mae ProMo-Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am fuddsoddiad Cronfa Tyfu Busnesau Cymunedol y WCVA. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ehangu’r tîm cyfathrebu ac ymgysylltu, codi ein proffil a chynyddu ein portffolio cleientiaid.

Rydym wedi adnabod ardal tyfiant yn y gwasanaethau cyfathrebu ac ymgysylltu gallem ei gynnig i ‘r Trydydd Sector a’r Sector Gyhoeddus. Bob blwyddyn mae yna gynyddiad yn y galw am ddarpariaeth marchnata, fideo, cynnwys, dylunio, hyfforddiant ac ymgynghori i gefnogi sefydliadau yn eu hymdrechion i gysylltu’n well gyda’r cyhoedd. Yn y gorffennol rydym wedi gweithio gyda sawl cleient gan gynnwys Shelter Cymru, Anabledd Cymru a Chymorth i Ferched Cymru.

Unigryw

“Er y gystadleuaeth, rydym yn denu cleientiaid am ein bod yn cynnig rhywbeth unigryw. Mae gwerth cymdeithasol yn uchel ar yr agenda i’r Trydydd sector a’r sector Cyhoeddus. Rydym yn gosod gwerth cynyddol ar brynu gwasanaethau gan fusnesau cymdeithasol,” eglurai Arielle Tye, Rheolwr Busnes ac Ariannu ProMo-Cymru.

Mae Wayne Lee, Cydlynydd Prosiect Cynhwysiad y Cymoedd Shelter Cymru, yn egluro pam eu bod wedi dewis ProMo-Cymru:

“Comisiynwyd ProMo-Cymru gan eu bod yn broffesiynol ac yn brofiadol heb deimlo’n gorfforaethol. Roeddem yn teimlo fel eu bod yn deall gwaith y sector elusennol a gallant gyfleu’r hyn rydym yn ei wneud mewn ffordd nad allai eraill,” meddai Wayne.

“Llwyddodd ProMo-Cymru i gyrraedd ein nod tu hwnt i’n disgwyliadau,” ychwanegodd.

Presenoldeb ar-lein

Mae ProMo-Cymru yn arbenigo mewn cyfathrebu gyda grwpiau bregus, pobl ifanc a theuluoedd. Eleni buom yn llwyddiannus yn ennill Cyfathrebiad Marchnata Gorau yng Ngwobrau Cymru Ddigidol am ymgyrch perthynas wedi’i greu ar gyfer pobl ifanc.

“Mae presenoldeb ar-lein effeithiol yn hanfodol i fusnesau’r trydydd sector i sicrhau eu bod yn cadw’n berthnasol mewn cyfnod modern,” eglurai Arielle.

“Rydym yn defnyddio methodoleg cyd-gynhyrchu, gyda chleientiaid a defnyddwyr gwasanaeth yn rhan o’r dylunio a’r trosglwyddiad. Mae hwn yn ddull ble mae pawb yn buddio.”

Datblygu

Eglurai Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr, beth fydd ProMo-Cymru yn ei wneud gyda buddsoddiad Cronfa Tyfu Busnesau Cymunedol y WCVA:

“Byddem yn defnyddio’r arian yma i ehangu ein gallu i gynhyrchu a gwerthu cynnwys cyfathrebu a dylunio a chryfhau a datblygu ein gweithgareddau menter bresennol ymhellach yn y maes yma,” meddai Marco.

“Mae’r dirwedd ariannu yn newid, mae angen i elusennau a busnesau cymdeithasol amrywio’u ffrwd incwm er mwyn diogelu eu cynaladwyedd,” ychwanegai.

Os hoffech ddarganfod sut gall ein gwasanaethau eich helpu chi, cysylltwch â Arielle@promo.cymru.

Mae ProMo-Cymru yn ddiolchgar iawn i’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymunedol (CTBC) am y cyfle yma. Mae’r gronfa yn cefnogi busnesau lleol yng Nghymru i dyfu a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a’i weinyddu gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, WCVA.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl gwaith ieuenctid digidol

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru