ProMo-Cymru @ Gŵyl y Llais Canolfan y Mileniwm

by Dayana Del Puerto | 30th Meh 2016

Yn gynharach ym mis Mehefin, bu Caerdydd yn cynnal dathliad unigryw, yn arddangos dawn ryngwladol. Dyma oedd Gŵyl y Llais gyntaf Canolfan y Mileniwm: digwyddiad bythgofiadwy. 

Gydag enwau mawr fel Charlotte Church, John Cale a Bryn Terfel yn perfformio ar draws Caerdydd, bu’r ŵyl hefyd yn anelu i cynnig profiad unigryw i bobl ifanc Caerdydd: i ysgrifennu, arwain ac i ddarlledu rhaglenni radio am y perfformiadau yn yr orsaf pop-up y Ganolfan.

Cawsom ein gwahodd i hyfforddi grwpiau o bobl ifanc y ddinas, o sefydliadau lleol Grassroots, Valleys Kids a theSprout, er mwyn eu paratoi am wythnos o ddarlledu.

Mae gan ProMo-Cymru brofiad eang yn ymgysylltu â phobl ifanc trwy brosiectau a gwasanaethau fel theSprout. Rydym wedi datblygu a darparu prosiectau sy’n blatfform i bobl ifanc medru uwchseinio’u llais ac yn hybu newid positif yn gymunedau ac ar y gwasanaethau sy’n heffeithio nhw.

Gyda chefndir da mewn radio a fformatau aml-gyfryngol, aeth ein Rheolwr Cyfathrebu, Arielle Tye, a’n Swyddog Amlgyfryngau, Dayana Del Puerto, ati i fynd â’r bobl ifanc trwy’u hyfforddiant: Paratoi i Gyflwyno Darllediad Radio.

Cafodd yr hyfforddiant ei ddarlledu ar ffrwd fyw Facebook theSprout ac yn cynnwys:

Mae gan ProMo-Cymru brofiad eang yn ymgysylltu â phobl ifanc trwy brosiectau a gwasanaethau fel theSprout. Rydym wedi datblygu a ddarparu prosiectau sy’n blatfform i bobl ifanc medru uwchseinio’u llais ac yn hybu newid bositif yn cymunedau ac ar y gwasanaethau sy’n heffeithio nhw.

–> Dangos pobl ifanc sut i siarad â chynulleidfa penodol — ffurfiol, anffurfiol ayyb
–> Dysgu am gyfarpar radio
–> Creu a recordio bwletin newyddion eu hun
–> Sut i gynnal gyfweliad

13316920_1026386167439663_3811235238202340871_o

Be’ sy’ nesaf am Radio Platfform?

Dywedodd Jason Camilleri (Swyddog Dysgu Creadigol y Ganolfan) :

We are currently looking at what we will do with the radio moving forward, and will hopefully propose a plan soon. We would love the guys that were involved to continue in some way.”

Am ddysgu mwy am Radio Platfform? Darllenwch blog Anna!


Gall ProMo-Cymru ddarparu sawl fath o hyfforddiant yn cynnwys:

–> Creu Cynhyrchiad Fideo
–> Animeiddio (Claymation)
–> Ysgrifennu Creadigol Gyda Cherddi 

Os ydych chi am i ni ddarparu hyfforddiant i’ch sefydliad chi, cysylltwch â ni.