Yn Croesawu Tom – Ein Prentis Cyfathrebu Newydd

by Tania Russell-Owen | 19th Gor 2018

Dewch i gyfarfod aelod newydd o’r tîm ProMo-Cymru, Tom Morris, ein Prentis Cyfathrebu.

Helo i bawb. Tom yma, aelod newydd staff ProMo-Cymru. Rwyf yn 22 oed ac wedi ymuno â’r tîm fel Prentis Cyfathrebu yn dilyn blwyddyn aflonydd ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn newyddiaduraeth a chymdeithaseg. Rwyf wedi derbyn beirniadaeth am fy nhrowsus yn barod, a dim ond yma ers tri diwrnod! Disgwyliwch nes iddynt glywed fy jôcs!

Ymatebais i hysbyseb swydd Prentis Cyfathrebu ar y funud olaf tua chwe wythnos yn ôl. Feddyliais i fyth y byddai’r wybodaeth wasgarog am hanner nos yn cael ei gymryd o ddifrif. Yn anhygoel, mae’r tîm wedi gweld drwy’r holl jync sydd yn llifo o’m bysellfwrdd yn hwyr yn y nos, ac wedi gweld llanc sydd yn ffitio’n dda i’r swydd.

Cyfathrebu

Fy mhrif ddyletswyddau fydd cefnogi prosiectau’r tîm cyfathrebu, yn gwneud yr hyn rwyf orau yn gwneud, sef ymestyn allan i bobl wrth greu cynnwys da. Honc honc – ydych chi’n clywed y sŵn yna? Chwythu trymped fy hun! Rwyf yn gweddu’n dda i’r prosiectau ydy gan fy mod wedi fy ngeni yng Nghymru (yn hen Ysbyty Glowyr Caerffili). Fel y mae pethau ar hyn o bryd, yma byddaf yn debygol o farw hefyd!

Fy marn amhoblogaidd ydy nad yw’n bwrw glaw cymaint yng Nghaerdydd ag y mae’r mwyafrif o bobl yn ei gredu. Yn bersonol, nid oes dim yn well na’r arogl yn yr awyr ar ôl i’r glaw stopio, y strydoedd wedi’u glanhau o lwch. Credaf hefyd bod Caerdydd yn ddinas ffyniannus, yn fwrlwm o bethau i’w gwneud. Dyma pam byddaf yn rhoi hwb fawr i adran digwyddiadau theSprout. Rwyf yn gwirioni ar gael pethau am ddim, felly byddaf yn rhannu’r bargeinion orau a digwyddiadau rhad mewn colofn wythnosol yn theSprout (dim o’r dwli 10% i ffwrdd yn Starbucks).

Yr argraff gyntaf

Mae ProMo-Cymru yn dîm grêt, yn llawn pobl gyfeillgar gyda phrofiad ac angerdd yn yr hyn y gwnânt. Maent yn adeiladu cymunedau ac yn ymestyn allan i ieuenctid Cymru. Gobeithiaf bydd fy ngyrfa yma yn parhau ymhell i’r dyfodol.

Mae’r swydd hon wedi’i chefnogi gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru