[Wedi cau] Swyddi: Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth/Hyfforddedig

by Dayana Del Puerto | 2nd Meh 2016

Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth/Hyfforddedig x 2 cyfatebiaeth llawn amser

CymraegSaesneg

I weithio fel rhan o dîm llinell gymorth yn trosglwyddo Meic, y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth wedi selio ar hawliau plant, i blant a phobl ifanc, a’r gwasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth PwyntTeulu i deuluoedd.

Swydd Ddisgrifiad – Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth: Cymraeg Saesneg

Swydd Ddisgrifiad – Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth Hyfforddedig: CymraegSaesneg

Lawrlwytho Cais

Mae’r swyddi yma wedi cau, ond am ein holl diweddariadau, ewch i’n tudalen swyddi, neu cofrestrwch am ProMail ar waelod y tudalen yma.

Gweithio Gyda Ni

Mae ProMo-Cymru wedi profi arloesiad a thyfiant sylweddol yn y 30 mlynedd diwethaf. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad ond mae ProMo-Cymru hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sy’n gallu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’n sefydliad. Mae sawl prosiect yn cynnig cyfle i’r staff ddatblygu’i gyrfaoedd a synnwyr o gyfrifoldeb wrth wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Rydym yn gweithio’n galed ar gyfer ein cleientiaid a’n partneriaid ac yn mwynhau rhannu’r gwobrwyon â nhw.

Rydym yn annog ein gweithwyr i fod yn rhan o’r broses arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau, rhoi sylw personol i eraill a gwneud i bob unigolyn deimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n unigryw. Mae ysgogiad deallusol yn annog golwg newydd ar hen ddulliau ac yn hybu creadigrwydd. Rydym yn ysbrydoli ac yn ysgogi. Mae hyn yn cynyddu gobaith a brwdfrydedd wrth gyfathrebu disgwyliadau uchel. Mae hefyd yn canfod posibiliadau nad oedd wedi’u hystyried cynt. Rydym yn rhannu gweledigaeth a synnwyr o bwrpas wrth ennyn parch, ffydd a hyder. Rydym yn chwilio am gyd-weithwyr sy’n gallu gweithio i’r gwerthoedd yma. Rydym yn gofyn am bobl ragweithiol gydag ysfa, eglurder a gweledigaeth.

Os ydych chi’n teimlo fel bod yr uchod yn wir i chi, rydym yn recriwtio a byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi!